Hanes Dyffryn Nantlle

Pant Glas

 
 
 

Crynodeb fer o hanes y pentref

Mae’r ardal yn llawn o safleoedd cyn-hanes, a chyfeirir at "Nantcyll" ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi fel y lle y bu gwyr Dyfed a Gwynedd yn brwydro yn erbyn ei gilydd. Mae Nancall hyd heddiw yn gynwysedig yn enwau tair ffarm ar gwr y pentref.

Yn Nancall Uchaf, y maged Bryn Terfel, y canwr byd-enwog. Cychwynnodd ei yrfa gerddorol yng Nghylchwyl Glannau Dwyfach rhwng capeli Pant-glas, Bwlchderwin, Bryncir a Brynengan - lle bu ei hen daid, Richard Jones, Y Gaerwen, yn godwr canu.

Gyferbyn â'r hen dafarn mae'r ffordd yn arwain at hen orsaf reilffordd yr LMS a redai o Gaernarfon i Afon-wen hyd 1964. Ffordd feiciau a cherddwyr yw gwely'r hen reilffordd erbyn hyn, a adwaenir fel Lôn Eifion ac mae'n ymestyn am bedair milltir ar ddeg o Gaernarfon i Fryncir.

Yn gwarchod pentref Pant-glas tua'r de mae Moel Derwin ac ar y llechwedd y tu draw iddi mae Bryn Derwin. Yno yn 1255 yr enillodd Llywelyn y Llyw Olaf y frwydr yn erbyn ei frodyr Owain a Dafydd. Mae enwau fel Cae March, Cae Doctor a Chae Lliaws yn parhau ar y caeau.

Tua'r gogledd ceir mynydd y Graig Goch. Mae'r hen ffordd bost yn cydredeg â'r ffordd newydd bresennol ac mae'n arwain o Garndolbenmaen i Nasareth. Ar ochr y ffordd hon, yr ochr uchaf i Nancall Uchaf, mae hen gapel arall gan y Methosistiaid cynnar ar dir ffarm Tai Duon. Mynwent Tai Duon y gelwir y fynwent sydd yno heddiw. Yma y claddwyd dau frawd a chwaer o Nantcwmbran, Pant-glas, a fu farw'n ifainc rhwng 1918 a 1924, fel a ddisgrifwyd yn y bennill isod gan J Roger Owen:

"Marwolaeth Mair a Willie - a Rhisiart
Wna i reswm dewi;
Ond ffydd ddichon fodloni
A gweld trefn mewn galw tri."

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys