Hanes Dyffryn Nantlle

Penygroes

 
 
 

Sioe Flodau'r Haf ~ 14 Hydref 2003

Ar ddiwrnod hyfryd, Sadwrn 14 Mehefin, cynhaliwyd Sioe Flodau Dyffryn Nantlle yn Neuadd Goffa Penygroes.

Sioe Flodau'r HafBu'n sioe lwyddiannus iawn unwaith eto gyda chystadlu da ymhob adran bron a mwynhaodd y nifer dda o'r cyhoedd a ddaeth i ymweld â'r Sioe fôr o liw gyda'r blodau bendigedig a'r llysiau gwych. Yr unig adran siomedig o ran nifer y cynigion oedd yr adran trefnu blodau, ond boddhawyd y beirniaid i gyd gyda safon uchel y cynnyrch.

Buom yn ffodus iawn eleni i gael Gerallt Pennant, cyflwynydd poblogaidd Clwb Garddio S4C i ddod i gyflwyno'r cwpanau a'r gwobrau arbennig a diolchwn iddo am ddod ac am ei rodd hael i'r sioe.

Yn ystod y gwobrwyo diolchwyd o galon i Mrs Kath Williams am ei rhodd o gwpan newydd hardd ac i'r teulu i gyd am eu rhodd ariannol, er cof am y diweddar Trefor Alun Williams, Bryn Clogwyn, a thalwyd teyrnged unwaith eto i Trefor am ei wasanaeth hir a ffyddlon i'r sioeau ym Mhenygroes. Enillydd cyntaf y cwpan newydd oedd Mrs Edna Hinckley o Lithfaen am ei chasgliad gwych o dri phlanhigyn pot (begonias mawr).

Daeth llwyddiant arbennig eleni i rai o'r cystadleuwyr o'r dyffryn gyda phedwar ohonynt yn ennill cwpanau neu fedalau. Cipiodd Elwyn Jones Griffith, Penygroes, gwpan Dolwen am y cynnig gorau o'r gladioli, Arfon Owen, Penygroes enillodd fedal arian Cymdeithas Genedlaethol y Chrysanths (NCS) am y cawg gorau a thystysgrif yr NCS am y blodeuyn gorau.

Enillodd Miss Elisabeth Woodford o Talysarn dair gwobr arbennig yn adran Trefnu Blodau, sef Cwpan Ffilmiau Tŷ Gwyn am y cynnig gorau, Cwpan Bob Parry am y marciau uchaf a Thlws Coffa G & E Peacock am y marciau uchaf gan gystadleuydd o Ddyffryn Nantlle ac yn adran y plant cipiodd Cian Rhys o Benygroes Gwpan Siop Glandwr am y cynnig gorau. Enillodd y rhain sawl gwobr arall hefyd.

Aeth y cwpanau a'r medalau eraill ymhellach i ffwrdd gydag Islwyn Williams o Eglwysbach yn ennill Cwpan Masarn am ei gasgliad o lysiau, medal arian yr NVS am y ddysgl orau o lysiau, medal aur a gwerth £10 o hadau Marshalls gan gylchgrawn y Garden News am gasgliad arall o lysiau, Cwpan y Grwp Marchnata am y marciau uchaf yn adran y Dahlias a medal arian yr NDS am y blodeuyn gorau, medalau aur ac arian a gwerth £15 o hadau Unwins, gan y Garden News eto, am ddau gawg o flodau cymysg. Does ryfedd, felly, mai ef oedd pencampwr y Sioe ac enillydd Cwpan Coffa Emyr Rowlands am y nifer mwyaf o wobrau cyntaf drwy'r Sioe.

Cafodd Tom Agate, o Abererch, hefyd gryn lwyddiant yn adran y llysiau gan ennill Cwpan Rebecca Rees am ei nionod mawr, Cwpan Goffa A.W. Roberts, Bod Owen, am y nifer uchaf o bwyntiau a medal arian a gwerth £5 o hadau Marshalls (Garden News) am gasgliad o lysiau.

Aeth yr unig wobr arall yn adran y Dahlias, Cwpan Coffa Nerys a Dilwyn, i Mrs Edna Hinckley eto, am y cawg gorau. Enillodd R.D. Edwards o Harlech fedal hefyd a gwerth £3 o hadau Unwins am gawg o flodau cymysg a Brenda Williams o Lanfairpwll gwpan Bryn Clwyd am y marciau uchaf yn adran y blodau amrywiol a Thlws Her Llwyn Bedw am y cynnig gorau o rosynnau.

Enillwyr eraill o ardal LLEU, y rhan fwyaf yn ennill sawl gwobr, oedd Edith M. Roberts, Alun Ffred Jones, Mary Williams, Raymond Parry, Gwyneth Parry, Alan Humphreys, Aled Evans, Cledwyn Williams, Nancye Parry, Janet Jones, Rhian Roberts ac Ilan Rhys.

Dymuna'r pwyllgor ddiolch o galon i bawb a gynorthwyodd mewn unrhyw ffordd i wneud y sioe yn llwyddiant, i'n noddwyr am eu rhoddion unwaith eto ac i bob un o'r cyhoedd a ymwelodd â'r Sioe am eu cefnogaeth.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys