Hanes Dyffryn Nantlle

Penygroes

 
 
 

Hanes Byr y Pentref

Pentref o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a sefydlwyd ar gwrs ffordd ganoloesol o Gaernarfon i Glynnog - ac ar hyd ffordd y 1820au a'i disodlodd yn rhannol, yw Penygroes. Cnewyllyn y gymuned, a'r nodwedd a roes iddo ei enw, yw'r gyffordd rhwng y ffordd o'r cyfnod cyn 1820 a'r ffordd i Gloddfa'r Coed, a'r efail a sefydlwyd yno tua 1801.

Ehangodd y pentref fel canolfan ar gyfer adwerthu, bancio a gweinyddiaeth drwy gydol yr 19 ganrif, ac fe ehangodd ragor ar ddiwedd yr 20 ganrif pan godwyd tai cymdeithasol a'r stadau diwydiannol yn sgîl dirywiad y diwydiant llechi a'r chwalfa gymdeithasol a'i dilynodd.

Adeiladau

Saif yr adeiladau cynharaf ar y brif ffordd (1820au) drwy'r pentref - sef y Stryd Fawr (Heol y Dŵr). Codwyd Hen Bost a Siop Griffith, sy'n gyfoes â'r ffordd, â cherrig lleol yn bennaf. Y rhes a elwir yn Dreddafydd, a godwyd ym 1837, yw un o'r rhesi diwydiannol hir cynharaf yng Ngwynedd, ac mae'r toeau wedi eu gwneud o lechi brith bras o Gloddfa'r Lôn. Mae'r tai diweddarach ar Ffordd y Sîr yn dilyn llwybr Rheilffordd Nantlle, a fu'n rhedeg o 1828 hyd 1872; mae'r anheddau hyn wedi cadw amrywiaeth o byrth addurnol a ffensys o haearn gyrru.

Cerrig bychain o'r caeau a ddefnyddid yn aml i godi'r tai diweddarach, megis y rhai ar Allt Doli, Ffordd Fictoria a Stryd yr Wyddfa, a thybir y defnyddid y rheiny am nad oedd deunyddiau mwy sylweddol ar gael. Siopau oedd llawer o'r adeiladau hyn (mae rhai ohonynt yn dal yn siopau hyd heddiw), ac mae llawer o ffryntiadau siopau cymharol addurnol o'r 19 ganrif wedi goroesi.

Mae dylanwadau pensaernïol estron i'w gweld yn y rhes a adwaenir fel y Tai American, a godwyd yn arddull tai'r peithdir yng nghanol America, ac efallai mai rhywun a ymfudodd ac a ddychwelodd a'u cododd.

Mae'r ardal yn cynnwys nifer o adeiladau sylweddol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gynnwys yr hen ysgol sirol (1896), yr hen swyddfa bost, sef banc HSBC bellach a thafarn y Commercial. Mae'r toeau llechi patrymog ar hen swyddfeydd cwmni Chwarel Riley ar gyffordd Ffordd Fictoria a'r Ffordd Sirol yn werth eu nodi. Gwelir patrwm tebyg ar y gatws ar y ffordd i Dalysarn.

Mae'r stad ddiwydiannol ar gyrion deheuol yr ardal yn cynnwys nifer o siediau dur parod ac adeiladau llai ar gyfer swyddfeydd.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys