Hanes Dyffryn Nantlle

Penygroes

 
 
 

Twrnament Pêl-rwyd Gwynedd

11.01.2009

Cynhaliwyd twrnament pêl-rwyd ym Methesda dydd Sul yr 11eg o Ionawr, 2009. Bu cystadlu brwd trwy’r dydd rhwng Penygroes, Bethesda, Bangor Red Socks A, Bangor Red Socks B, Dyffryn Reunited a Dolgellau.

Cafodd Penygroes ddiwrnod llwyddiannus dros ben gan ennill pob gêm a derbyn tlws ar ddiwedd y twrnament. Hon oedd y gystadleuaeth gyntaf i ni ei hennill ers i ni ffurfio’r tim ychydig dros flwyddyn yn ôl ac roeddem yn falch iawn fod yr holl ymarfer caled wedi talu ar ei ganfed.

Rydym yn ymarfer bob nos fawrth o 7-8yh ym Mhlas Silyn. Os rydych yn awyddus i wella eich sgiliau neu am gadw’n ffit mae croeso cynnes i chi ymuno â ni!

Twrnament Pêl-rwyd Gwynedd

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys