Hanes Dyffryn Nantlle

Penygroes

 
 
 

Agoriad Swyddogol Tŷ Iorwerth ~ Ebrill 2004

I ddathlu llwyddiant cynllun diweddaraf Antur Nantlle Cyf. yn yr ardal, gwahoddwyd Mr lorwerth Hughes o Landudno (Swyddfa'r Post Penygroes gynt) i berfformio'r seremoni o dorri'r ruban yn agoriad swyddogol adeilad Tŷ lorwerth.

Roedd pawb yn gytûn fod dewis Tŷ lorwerth fel enw newydd ar adeilad banc yr HSBC ym Mhenygroes yn ddewis da yn enwedig o glywed anerchiad Mr Hughes ar y 1af o Fawrth. Dan arweiniad Cadeirydd yr Antur, Alun Ffred Jones AC, ac yng nghwmni cydweithwyr, cyfarwyddwyr, cyfeillion a thenantiaid newydd, cafwyd agoriad swyddogol haeddiannol ar ddydd Gŵyl Dewi. Cofiwch godi'ch golygon wrth fynd i mewn drwy ddrws y banc i weld y llechen gron sydd yn coffau'r amgylchiad.

Iorwerth Hughes ac Alun Ffred Jones Llun: Iorwerth Hughes ar y chwith ac Alun Ffred Jones ar y dde, yn ystod Agoriad Swyddogol Tŷ Iorwerth.

Bachgen ifanc iawn oedd Mr Hughes yn dod i fyw i Benygroes, pan ddaeth ei dad (hefyd yn Iorwerth Hughes) yn bostfeistr i'r pentref. Yr oedd y Swyddfa Bost yr adeg honno yn rhan o adeilad y banc a'r teulu yn byw uwchben. Roedd atgofion melys a difyr ganddo am ei hen gartref er mai prin yr oedd yn adnabod yr adeilad erbyn heddiw - serch fod yr olygfa o ffenestri'r llofft am yr Eifl a Chrib Nantlle yn dal yr un.

Drwy gydweithrediad banc yr HSBC llwyddodd Antur Nantlle i brynu ac addasu'r adeilad trwy ddenu grantiau Cwlwm Gwledig Cyngor Gwynedd, Cronfa Agregau Llywodraeth y Cynulliad a Chronfa Grant Gwella'r Amgylchedd a Menter Trefi a Phentrefi Bychan gan Awdurdod Datblygu Cymru. Mae'r ddau lawr uchaf, oedd wedi bod yn wag ers blynyddoedd, erbyn hyn yn cynnwys saith swyddfa safonol gyda mynediad llawn i'r anabl. Gyda'r banc yn gweithredu o hyd ar y llawr gwaelod, daeth tenantiaid newydd i'r swyddfeydd. Mae Cymorth i Ferched Cymru yn brysur yn datblygu cynllun newydd yno, Cris Jones yn cynnig gwasanaeth cyfieithu, Ben Gregory gydag Ymgyrch Nicaragua yn Swyddfa 7 a Chysylltiadau Gwaith yn Swyddfa 4 yn cynnig gwasanaeth arbennig i'r di-waith.

Diolch i Mr Iorwerth Hughes am ei gyfraniad unigryw, i Mr Ian Williams, Cyfarwyddwr Ardal yr HSBC am ei sylwadau, i griw Cysylltiadau Gwaith am eu cymorth ac am y lluniaeth, i'n noddwyr oll ac i bawb arall fu'n cynorthwyo gyda'r gweithgareddau.

Arwyddair Antur Nantlle yw 'Gweithio Er Lles yr Ardal'. Os hoffech drafod syniadau ddaw a budd i Ddyffryn Nantlle 'rydym yn barod ac yn awyddus i wrando. Galwch heibio'r Ganolfan Dechnoleg am sgwrs gydag aelodau'r staff neu ffoniwch 01286 882688.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys