Hanes Dyffryn Nantlle

Penygroes

 
 
 

Yr Eryr: Cylchgrawn Ysgol Dyffryn Nantlle

Dewisiwch un o'r is-deitlau isod er mwyn ymweld â'r pwnc priodol:

1.   Bathodyn ein Hysgol
2.   Rhagfyr 1962
3.   Rhagfyr 1963
4.   Clybiau Ysgol Dyffryn Nantlle ym 1972


Bathodyn ein Hysgol

gan Bethan Jones Parry (Dosbarth 1A) o Yr Eryr – Rhifyn 17 – Rhagfyr 1968

Yr Eryr - Bathodyn Swyddogol Ysgol Dyffryn Nantlle ac enw Cylchgrawn yr ysgolLluniwyd bathodyn ein hysgol gan Mr John Davies, athro celf ac arlunio. Wrth edrych ar y bathodyn gwelwch arwyddair additano. Dywed hwn "Delfryd Dysg, Cymeriad" – geiriau a ddewiswyd gan y Parchedig Robert Jones, Talysarn. Ond beth am ddisgrifio’r bathodyn ‘nawr? Ar ben y bathodyn mae tri eryr. Eryrod Eryri yw’r rhain. Maent yn cynrhychioli’r mynyddoedd mawreddog a geir yno. Ac wrth gwrs mae Dyffryn Nantlle yn Eryri. Eryrod melyn yw rhain ar gefndir o wyrdd.

Y peth nesaf I’w ddisgrifio yw’r llechi. Ysgol mewn ardal o chwareli llechi yw Ysgol Dyffryn Nantlle. Mae’r llechi wedi eu ffurfio I awgrymu crib a tho ty. Gwnaiff hyn I mi feddwl am yrfa ysgol. Rhaid cael help yr ysgol I gyrraedd uchafbwynt ein gyrfa yn union fel mae’n rhaid cael help ysgol wahanol I gyrraedd crib y to. Wedi cyrraedd y crib mae’r byd I gyd o’m blaen.

Yn sefyll ar Feibl agored gyda’r llechi yn gefndir iddi mae cwpan o aur gyda thafod o dan yn codi ohoni. Gan ei bod yn gwpan aur, olew drud sydd yn llosgi ynddi. Yr addysg a gawn yn yr ysgol yw’r olew. Mae’r addysg hon yn werthfawr gan fod ein teidiau wedi ymdrechu’n galed I’w chael I ni a rhaid gafael ynddi gyda dwy law fel y mae gan y gwpan ddwy glust iddi. Ein gwaith yw ei defnyddio yn y ffordd iawn. Hynny yw rhaid inni wneud iddi losgi a fflam goch glir a’I defnyddio nid yn unig er mwyn ein hunain ond er mwyn pawb arall. Y mae Iesu Grist yn dweud:

"Ac ni oleuant gannwyll a’I dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren a hi a oleua I bawb sydd yn y ty."

I ddangos fod popeth a ddysgwn yn yr ysgol wedi ei selio arno mae’r gwpan yn sefyll ar Feibl agored. Dyma paham mae’r arwyddair yn dweud wrthym mai pwrpas addysg yw ein dysgu ni I fod yn bobl a chymeriad ganddynt.

[ Yn ôl i'r Top ]

Rhagfyr 1962

Erthygl o Yr Eryr gan Menna Owen

Dyma adroddiad gan Menna Owen (blwyddyn V1) am Eisteddfod gyntaf yr Ysgol i gael ei chynnal yn y neuadd (newydd) a’r flwyddyn y ffurfiwyd Ty Dulyn. Cysylltwch â ni os oeddech chi yno ac efallai wedi ennill rhyw gystadleuaeth arbennig neu hwyrach yn aelod o’r Ty buddugol.

Ers blynyddoedd bellach cynhelid Eisteddfod yr Ysgol yn Neuadd Goffa Penygroes, ond eleni gan fod gennym neuadd newydd hardd a llwyfan mawr cyfleus, torrwyd ar yr hen draddodiad ac yn neuadd newydd yr ysgol y cynhaliwyd hi. Bu yn eisteddfod lwyddiannus dros ben, gyda’r holl ddisgyblion yn bresennol a’r mwyafrif ohonynt wedi ymgeisio mewn rhyw gystadleuaeth neu’i gilydd. Yr oedd yn amhosib i bob buddugwr ymddangos ar y llwyfan wrth gwrs, ond darllenwyd enwau’r rhai buddugol yn y cystadlaethau ysgrifenedig a choginio gan yr arweinwyr a chynhaliwyd arddangosfa o waith y rhai buddugol mewn gwaith llaw, arlunio, gwaith coed a gwaith metel yng nghyntedd y neuadd.

Y beirniad cerdd eleni oedd Mr Gwyn Jones BA LTCL a’r Parch Gwilym R Tilsley MA, oedd yn beirniadu’r adrodd. Arweiniwyd yr Eisteddfod gan bedwar disgybl o’r chweched dosbarth sef: Richard Morris Jones, Gwenni Williams, Gwynne Pierce ac Arfon Owen Jones. Derbyniwyd nifer o delegramau gan y cyn-ddisgyblion yn dymuno’n dda i’r tai ac yr oedd ty newydd yn cystadlu eleni sef Dulyn (glas) ond er hynny Llyfnwy oedd y ty buddugol fel arfer!

Gan nad oedd lle i rieni a charedigion eraill yn y neuadd ddiwrnod yr eisteddfod cynhaliwyd cyngerdd yr wythnos ddilynol lle yr ymddangosodd y buddugwyr yng nghystadlaethau’r llwyfan. Cynhwysai rhan gyntaf y cyfarfod ganu ac adrodd a rhoddodd ty Llifon berfformiad o ran o Llywelyn Fawr gan Dr Thomas Parry. Yna cyflwynodd y Prifathro'r Cwr Gwadd sef Erfyl Fychan sydd yn gyn-ddisgybl o’r ysgol ac yn Gofiadur i’r Eisteddfod Genedlaethol. Ar ddiwedd ei anerchiad addawodd yntau y rhoddai gwpan arian i’r Eisteddfod.

Yr oedd trefniant arbennig i ail hanner y cyfarfod ac yr oedd hwn yng ngofal Mr John L Williams. O dan ei arweiniad ef a chynhorthwy Mr Peleg Williams, perfformiodd rhai o’r disgyblion hynaf fath o basiant ac yn ystod hwn cynhaliwyd seremoni’r orsedd a’r cadeirio mewn ffordd ddramatig a chofiadwy.

Erbyn hyn y mae Erfyl Fychan wedi cwblhau ei addewid. Felly yn Eisteddfod 1963 bydd cystadleuaeth arbennig pryd y bydd y pedwar ty yn ymgiprys am Gwpan Erfyl Fychan. Y gamp i ddisgyblion y chweched fydd cyflwyno un traethawd o bob ty ar Lywodraeth Leol ac y mae’r gwaith ar y gweill yn barod. Felly Silyn, Llifon a Dulyn beth am dorchi’r llewis o ddifrif o hyn hyd fis Mawrth a churo Llyfnwy y tro nesaf!!

[ Yn ôl i'r Top ]

Rhagfyr 1963

Erthygl o Yr Eryr gan Moira Jones

Adroddiad difyr gan Moira Jones am ymweliad dosbarthiadau 1A a 1B a Chwarel Penyrorsedd pan oedd y chwarel yn dal i weithio. Tybed pwy sydd yn cofio’r diwrnod ac a ydi Derek Charles yn cytuno hefo’r adroddiad??…

Dau ddiwrnod cyn gwyliau’r haf aeth dosbarth 1A a 1B mewn bws i weld chwarel Penyrorsedd. Y mae’r chwarel hon uwchben Nantlle.

Daeth y rheolwr i’n cyfarfod ac aeth a ni yn gyntaf i weld y twll dwfn sydd droedfeddi lawer i lawr. Ar waelod y twll yr oedd ychydig o ddynion yn gweithio. Hwy oedd yn dosbarthu’r cerrig a’r baw ac yn eu rhoi mewn troliau ac y mae olwyn fawr yn troi ac yn codi’r troliau.

Gwelsom y cerrig yma yn cael eu cludo i mewn i’r penty mawr. Yr oedd y cerrig yn rhai o bob maint a lliw. Wedyn yr oedd y troliau yn mynd ar draws y penty ac yn cael eu codi gyda chadwynau a’u rhoi ar y byrddau i gael eu llifio i wahanol fesurau. Y maent yn cael eu hollti gyda chyn a gordd bren. Cafodd Derek Charles gynnig ar hollti un o’r llechi a llwyddodd yn o lew. Wedi eu hollti i wahanol faint yr oedd y llechi yn cael eu rhoi tu allan mewn rhesi gyda rhai bach yn gyntaf a rhai tipyn mwy wedyn. Mae lorri yn dod ac yn eu cludo i wahanol lefydd lle y maent yn cael eu defnyddio i lawer pwrpas ond yn bennaf un maent yn cael eu defnyddio i doi tai.

Yn y chwarel hon y mae tua thri deg o ddynion yn gweithio. Dywedodd y rheolwr wrthym fod llawer mwy yn gweithio yn y chwarel yn y blynyddoedd a basiodd ond nad oedd llawer o fechgyn ifanc y fro yn mynd y dyddiau hyn i gael eu prentisio.

Cawsom fynd i weld y caban lle yr oedd y chwarelwyr yn bwyta’u cinio. Yr oedd yno le clyd iawn a dwy setl lle byddai'r dynion yn eistedd i gael eu cinio. Wedyn aethom i’r swyddfa lle gwelsom rai yn paratoi cyflogau’r dynion.

Wrth fynd adref aethom i weld y gofaint wrthi’n brysur. Yr oedd y lle yma yn perthyn i’r chwarel hefyd ac yr oeddynt yn gwneud cynion o bob sut i hollti’r cerrig mawr. Yr oedd yn rhaid i ni gerdded adref ac wrth wneud hynny cawsom lawer o hwyl gyda Mr Jones a oedd yn edrych ar ein hol. Wrth fynd aethom heibio dau lyn prydferth. Cawsom fwyta’n bwyd ar ochr y ffordd ac aethom adref drwy Dalysarn ac yr oeddem mewn pryd i fynd i’r cinio cyntaf wedyn.

[ Yn ôl i'r Top ]

Clybiau Ysgol Dyffryn Nantlle ym 1972

Yn y flwyddyn hon roedd 13 o glybiau yn rhan o weithgareddau Ysgol Dyffryn Nantlle. Mae’r holl athrawon oedd yn ymwneud a’r rhain yn haeddu pob clod!!

Tybed oes yna rywun yn cofio bod yn aelod o’r Clybiau isod. Gadewch i ni wybod.

Y Clwb Seryddiaeth

Yn cyfarfod yn ystod y wers olaf ar ddydd Gwener yn y labordy Ffiseg dan gyfarwyddid Mr Idris Thomas. Gobaith yr aelodau oedd adeiladu ysbienddrych i gael astudio rhyfeddodau’r bydysawd. Tybed a wnaeth hynny ddigwydd??

Y Clwb Cregyn

Yn ymgynnull ar brynhawn dydd Gwener dan lywyddiaeth Miss Iola Thomas. Roedd yr aelodau yn addurno gwahanol nwyddau gyda chregyn. Hwyrach fod rhai o drysorau’r clwb ar gael o hyd...

Y Clwb Drama

Clwb newydd ei sefydlu ac yn cyfarfod yn ystod y wers olaf ar ddydd Gwener ac yn ymarfer amser cinio neu ar ôl yr ysgol.

Y Clwb Stampiau

Roedd cryn dipyn o ddiddordeb yn y clwb hwn ac yn ôl pob son roedd yr aelodau yn cael cyfle i astudio casgliad yr ysgol yn ystod y cyfarfodydd. A oes rhai o’r aelodau yn gasglwyr o hyd?? A beth yw hanes casgliad yr ysgol erbyn heddiw tybed?

Clwb Cynhaliaeth Modur

Roedd 23 o aelodau yn cyfarfod yn y gweithdy metel o dan ofal profiadol Mr Ifan Parry. Roedd yr aelodau yn trafod yr injan ac yn gobeithio cael hen gar er mwyn trin a thrafod ei holl gydrannau.

Clwb Anifeiliaid Anwes

Mr Ifan Wyn Roberts oedd yng ngofal y Clwb hwn ac yn cwrdd yn y Labordy Gwyddoniaeth. Caed cynghorion ar sut i gadw’r anifeiliaid anwes yn iach a bodlon a chael cyfle i weld anifeiliaid rhai o’r disgyblion.

Y Clwb Gwnïo

Cynhelid y Clwb Gwnïo ar brynhawn dydd Gwener dan ofal Miss H Jones. Roedd y Clwb yn gwnïo offer ar gyfer y Clwb Crwydro a’r Clwb Drama.

Y Clwb Rwsieg

Deg disgybl ynghyd a Mr J R Gill oedd aelodau’r Clwb ac ar y dechrau roeddent yn canolbwyntio ar sut i ynganu geiriau’r iaith Rwsieg. Yn ôl arbenigwyr nid yw’r iaith yn anodd gan fod gramadeg yr iaith yn hawdd!! Tybed!!

Y Clwb Gwyddbwyll

Mr John Davies oedd yng ngofal y Clwb hwn a chynhaliwyd twrnaments yn ystod y tymor.

Clwb Ffotograffiaeth

Dan ofal Mr Emrys Price Jones y cychwynnwyd y Clwb Ffotograffiaeth ac roedd yr aelodau yn tynnu lluniau ac yn argraffu lluniau hefyd mewn du a gwyn. Roedd costau rhedeg y Clwb hwn yn uchel oherwydd bod angen cymaint o offer a phapur argraffu drud. Gwahaniaeth mawr erbyn heddiw a ninnau wedi cyrraedd yr oes ddigidol.

Y Clwb Crwydro

Yn ystod 1972 bu’r Clwb Crwydro ar bedair taith. Mr Gareth Jones oedd yn cynllunio’r teithiau ac yn arwain hefyd gyda help aelodau eraill o’r staff. Cafwyd dwy daith i ben mynydd Cwm Silyn taith o 12 milltir. I’r Waunfawr a phen Moel Eilio yr aeth yr ail daith a’r tro wedyn i Ddeiniolen a’r Elidir Fawr. Roedd y Clwb Crwydro yn boblogaidd iawn ymysg y disgyblion.

Clwb Blodau

Bu aelodau’r Clwb yn dysgu sut i osod blodau a gwneud addurniadau Nadolig.

Uwch Adran Yr Urdd

Sefydlwyd yr Adran yn yr ysgol dan gyfarwyddid Mr Maldwyn Parry a Mrs Glenys Griffith. Bu rhai disgyblion yn fuddugol yn yr Eisteddfod yn y Bala, bu eraill yn cynrychioli’r ysgol yn y Gadeirlan Bangor. Cynhaliwyd cwis , sioe sleidiau, casglu dillad i Asiaid Tonfannau, dawnsio gyda’r ‘Mellt’, mynd o gwmpas y Dyffryn adeg y Nadolig i ganu carolau a chasglu arian i gronfa’r Urdd. Adran brysur iawn!

[ Yn ôl i'r Top ]

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys