Hanes Dyffryn Nantlle

Pontllyfni

 
 
 

Gwibfaen Coch y Bîg

Ym Mhontllyfni, Gwynedd, y bu'r cofnod cyntaf o wibfaen (meteorite) i ddisgyn yng Nghymru. Digwyddodd ychydig cyn hanner dydd ar 14 Ebrill 1931 pan fu i'r ddaear grynu ac achosi i bobl Dyffryn Nantlle a Phen Llŷn glywed swn tarannu mawr.

Roedd llawer yn meddwl mai daeargryn ydoedd, ond yn fuan wedi'r digwyddiad darganfuwyd gwibfaen o fewn 50 llath i ffermdy Coch y Bîg.

Drannoeth, adroddodd y papurau newydd am y wibfaen 5oz a'i bod wedi gwneud twll tua 8-9 o fodfeddi o ddyfnder mewn daear caled iawn, yn ychwanegu nad oedd y ffermwr, John Lloyd Jones, ddim mwy na 10 cam oddi wrth y man lle daeth i lawr.

John Lloyd Jones a Gwibfaen Coch y Big
Llun: John Lloyd Jones a Gwibfaen Coch y Bîg a ddisgynodd 10 cam oddi wrth lle'r oedd yn sefyll.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys