Hanes Dyffryn Nantlle

Talysarn

 
 
 

Y Ddôl a aeth o'r Golwg

Yn Nhal-y-sarn ystalwm
Fe welem Lyfni lân,
A'r ddôl hynafol honno
A gymell hyn o gân;
Ac megis gwyrth y gwelem
Ar lan hen afon hud
Y ddôl a ddaliai Pebin
Yn sblander bore'r byd.

Yn Nhal-y-sarn ysywaeth
Ni welwn Lyfni mwy,
Na gwartheg gwyrthiol Pebin
Yn eu cynefin hwy.
Buan y'n dysgodd bywyd
Athrawiaeth llanw a thrai:
Rhyngom a'r ddôl ddihalog
Daeth chwydfa'r Gloddfa Glai.

R Williams Parry (1945)


Dôl Pebin y Mabinogion

Bu’r ddôl hon yn gartref i Goewin, ferch Pebin, sef y forwyn honno oedd yn droedog i’r brenin a’r dewin Math fab Mathonwy. Ei gwaith oedd dal ei draed ar ei glin ac eithrio pan fyddai’n rhaid iddo ymladd mewn rhyfel.

Bu’r ffermdy Dôl Pebin yma hyd at ganol yr ugeinfed ganrif pryd y codwyd stad o dai’r cyngor yno - Bro Silyn.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys