Hanes Dyffryn Nantlle

Y Groeslon

 
 
 

Hanes byr Y Groeslon

Ardal amaethyddol oedd yma cyn i'r diwydiant llechi ddod i fri a'r pentref agosaf yn Y Dolydd Byrion - Dolydd erbyn heddiw. Yr oedd yno dafarn, gefail, barcdy a thyrpeg a dyna paham mai yn y fan honno y codwyd yr addoldy cyntaf, sef Brynrodyn.

Ond erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd mwy o chwarelwyr yn Y Groeslon na gweithwyr ar y tir, er bod rhai ohonynt yn dal i ffarmio neu yn cadw tyddyn. Sonia Gilbert Williams mewn erthygl ar Chwarel y Cilgwyn yn Yr Herald 1938 fel y byddid yn cario'r llechi ar y dechrau mewn cewyll o bob ochr i ful neu geffyl a merched yn gyffredin yn eu harwain i lawr y ffordd heibio i Allt y Pill a thrwy gae Lloc, heibio i Lwyn y Gwalch ac i lawr i'r Foryd i'w hallforio.

Cyn hynny cwmniau bychain yn defnyddio trosolion yn unig a heb saethu oedd yn Chwarel y Cilgwyn. Dywedir bod y Brenin Iorwerth 1af wedi aros yn Nhy Mawr Nantlle yn 1283 a bod y to wedi ei doi â llechi o'r Cilgwyn.

Yn chwareli'r Cilgwyn, Penyrorsedd, Y Foel a Dorothea y gweithiai'r rhan fwyaf o chwarelwyr Y Groeslon, felly roedd ganddynt hwy gryn bellter o ffordd i'w cherdded bob dydd.

Roedd dros fil o ddynion yn gweithio yn chwarel Penyrorsedd ar un adeg.

Platfform a Gorsaf Reilffordd Y GroeslonDatblygodd y pentref yn sgil gorsaf drenau'r LMS. Agorwyd yr orsaf hon ar Fedi 2 1867 ond yr oedd rheilffordd gul yma cyn hynny a âi o Nantlle i Gaernarfon ac a agorwyd yn 1828.

Llun: Platfform a Gorsaf Reilffordd Y Groeslon

Cludid copr a llechi mewn wagenni a dynnid gan geffylau. Yn raddol, gyda dyfodiad bysiau, ceir a loriau lleihaodd y galw am y trên a chaewyd yr orsaf yn Rhagfyr 1964. Addaswyd y rheilffordd yn lôn ar gyfer loriau gwaith ac yn ddiweddarach yn Lôn Eifion ar gyfer beicwyr a cherddwyr.

Tren yn stopio yng Ngorsaf Reilffordd Y Groeslon
Llun: Tren yng Ngorsaf Reilffordd Y Groeslon

Jane O'Dwyer Wildlife Photography
Efo diddordeb mewn noddi tudalen? Cysylltwch efo ni

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys