Y Mabinogi

Llefydd a gafodd eu crybwyll yng Nghainc Cyntaf y Mabinogi

 
 
 

Cyflwyniad

Tydi'r tudalennau canlynol ddim yn cynnwys y chwedl i gyd, mae rhaid i chi gael copi o'r Mabinogi (heb ei dalfyrru os yn bosib, ond does dim ots pa fersiwn), ac unrhyw fap modern o'r ardaloedd dan sylw gan Ordnance Survey. Ond cofiwch, cafodd y llyfr ei ysgrifennu yn Gymraeg Canol yn wreiddiol. Felly, mae'r sillafu yn debyg o amrywio rhwng bob fersiwn yn ôl dewis y golygydd.

Dydy ceinciau 1, 2, & 3 ddim yn cynnwys cymaint o enwau lleol ag sydd yn y bedwaredd Gainc sydd wedi cael ei lleoli yn bennaf yng Ngwynedd. Ond dydy hynny ddim yn golygu bod yr ysgrifennwyr yn llai cyfarwydd â lleoedd tu allan i Wynedd. Mae geiriau, priod-ddulliau a seinio gan ysgrifennwyr oedd yn amlwg o Dde Cymru yn nodweddu’r holl waith. Wedi’r cyfan, nid prif nôd y cyfarwyddyd, ac wedyn yr ysgrifennwyr, oedd i roi disgrifiad manwl o dirwedd Cymru Gynt, ond yn hytrach i ddweud y stori yn ei chrynswth.

Mae Pedair Cainc y Mabinogi’n gyfanwaith, nid pedair rhan ar wahan. Dim ond un cymeriad - Pryderi - sy’n ymddangos ym mhob Cainc. Ar adegau, mae’n nhw’n ymddangos fel straeon di-gyswllt, gan fod, yn ôl nifer fawr o ysgolheigion, rhai o’r chwedlau cyswllt wedi mynd ar goll dros y canrifoedd, ond mae un thema’n uno’r holl waith sef buchedd Pryderi.

Er hynny, mae’n bosibl cael gwybodaeth ychwanegol am leoedd drwy edrych yn fanwl ar enwau personol. Weithiau mae rhai o’r enwau’n ymddangos yn afreal, gan fod y rhai iawn wedi eu hanghofio dros y canrifoedd efallai. Felly mae’n debyg y creuwyd enwau er mwyn disgrifio nodweddion a gwreiddiau’r cymeriad e.e. “Pwyll” a “Pryderi”.

Yn yr un modd a’r bedwaredd Gainc, mae’n rhaid i ni feddwl am natur cymdeithas yn ye Oesoedd Canol, a’u hagweddau nhw at yr oesoedd a fu. Yn aml, brithwyd eu hanes cyfoes, a hynafol hefyd, efo traddodiadau sydd, mae’n debyg, yn dyddio’n ôl i’r oesoedd cynhanesyddol.

Y Gainc Gyntaf

DYFED - 7 Cantref (Gweler fap y cantrefi Linc mewnol: Agorir mewn ffenestr newydd am ragor o wybodaeth)

ARBERTH - un o brif lysoedd Pwyll, nid nepell o Orsedd Arberth (gweler isod), mae’n amlwg. Efallai mai safle’r Castell Normanaidd yn Arberth O.S. SN112145 oedd ym meddwl y storiwr?

Castell Normanaidd Arberth

GLYN CUCH - SN236415 i SN280358 Mae Afon Cuch (neu Cych) yn ffurfio’r ffin rhwng Hen Ddyfed (sef Sir Benfro rwan) a Sir Gaerfyrddin. “A Phryderi mab Pwyll a gadwodd foch Pendaran Dyfed yn Nglyncuch yn Emlyn” yn ôl Trioedd Peniarth. Efallai, yn nychmygedd y storïwr, y bu i Pwyll ddilyn cwrs yr hen ffordd o Arberth trwy Boncath gan gadw ar gefn y bryn, yna i lawr at Abercuch.

PEN LLWYN DIARWYA - anhysbys. Er fod gan yr arwyr o’r oesoedd a fu bwerau goruwchnaturiol i deithio bellteroedd maith yn hawdd, mae’n debyg ei fod yn agos i Lyn Cuch.

ANNWFN - gweler Cainc 4 Linc mewnol: Agorir mewn ffenestr newydd

Y RHYD - SN238411 Ger pentref Abercuch mae rhyd hynafol dros yr Afon Cuch, ond wrth edrych ar y map O.S. a’r llun o’r awyr yn www.cambria.org.uk Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd, mae’n amlwg bod yr afon sydd yn ymddolennu drwy’r dyffryn hwn wedi symud ei chwrs dros y ganrifoedd - nodwch lle mae’r ffin rhwng y siroedd rwan. Ond yn y dyddiau gynt, ffurfiodd yr afon ffin rhwng Ddyfed ac Ystrad Tywi. Yn agos iawn hefyd mae’r Afon Teifi, sydd yn ffin efo Ceredigion. Mae lluniau hyfryd o ardal Abercych yn www.headwaters.co.uk Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd.

Dydy’r cymeriadau ddim yn gwahaniaethu rhwng y rhyd hwn a’r rhyd lle lladdodd Pwyll Hafgan. Roedd “drothwy” rhwng ddau le neu drobwynt yn y blwyddyn yn arbennig yn ein traddodiadau. Hefyd, roedd pob afon yn gysegr i Duwies y Dwr yn ôl yr Hen Geltiaid ac ni all unrhyw ysbryd drwg groesi dwr.

GORSEDD ARBERTH - SN113135. Caer o’r Oes Haearn ar Camp Hill i’r de o dref Arberth ydy’r mwyaf tebygol er i nifer o leoedd cyfagos yn hawlio’r fraint.

Dyma le welodd Pwyll Riannon ar gefn ei cheffyl. (Mae ei henw hi’n gysylltiedig a Rigatona/Epona, duwies geltaidd a’i sumbol oedd y ceffyl, arwydd o bwer: dywedir y tarddodd hen arferiad tymor y Nadolig “Y Fari Lwyd” o’r un ffynhonell – gweler www.amgueddfacymru.ac.uk Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd. Cosb Rhiannon ar ôl diflaniad ei mab oedd cario ymwelwyr ar ei chefn i mewn i’r llys fel ceffyl.)

[Ond hefyd ceir Nant Arberth (a chaerau a godwyd yn ystod yr Oes Haearn hefyd) i’r dwyrain o Aberteifi - ond dydy o ddim yn Nyfed ac yn rhy agos o lawer i Lyn Cuch i gyd-fynd â’r stori.]

LLYS HYFAIDD HEN neu HEFEYDD HEN - lle anhysbys, ond, yn yn ôl y Mabinogi, dim yn Nyfed.

Ond yn ôl rhai traddodiadau eraill, fo oedd brenin cyntaf Dyfed. Gorsedd Arberth oedd ei fan claddu ac hefyd, mynediad i Annwn oedd. Ai hwn yw’r caer hud yn y 3ydd cainc?

Ceir arwr o’r enw Hyfaidd Hir yn y gerdd Y Gododdin o’r 6ed ganrif (cyfansoddwyd gan Frython o’r enw Aneurin mewn gwlad sydd, erbyn hyn yn yr Alban). Yn Ail Gainc y Mabinogi mae o’n ymddangos fel un o’r Saith Marchog ac hefyd Hyfaidd, brenin Dyfed fu farw 892 a.y.y.b... Roedd Hyfaidd yn enw cyffredin yng Nghymru yn ystod y Canol Oesoedd.

TEYRNAS GWAWL FAB CLUD - (gweler map yr Alban, isod). Yn llythrennol, ystyr yr enw, medden nhw, ydy “Gwal fab Golud”.

Yr Alban

Ystyr “Gwawl” yn ôl Geiriadur y Brifysgol:

  1. Vallum (mur Rhufeinig) rhwng Aber Gweryd ac Aber Clud - sef Mur Antoninus nid Mur Hadrian
  2. Gwr
  3. Goleuni

Ond mae ei enw olaf yn cyfeirio at Afon Clud yn yr Alban, mae’n debyg. Felly, un o’r Hen Ogledd oedd o, sef Brythoniaid, fel y Cymry.

Craig Dumbarton

Eu prifddinas oedd Allt Clud – Craig enfawr ar lan ogleddol Afon Clud [Craig Dumbarton (Dinas y Brythoniaid) NS399745 rwan].

Ymledodd deyrnasau’r Brythoniaid heb her o ganol yr Alban hyd at Gernyw tan Frwydr Dyrham (ger Caerfaddon) yn 577 ac at Gymru tan Frwydr Caer yn 615.

Estronwyr yn ein Gwlad ein hun?

Tiroedd Coll

  »»  Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r map Dogfen PDF (281kb)

Cyfeiriodd yr Eingl-Sacsoniaid at y Brythoniaid i gyd fel “Wælisc” (Welsh) sef - “estronwyr” a siaredai iaith wahanol.

Rhannwyd nhw fel hyn:

  1. Cymry’r Gogledd – Cymru gyfan - o Fôn i Fynwy, gan gynnwys rhannau o Siroedd y Gororau. (Siaredir Cymraeg gan 582,400 o bobl yn ôl Cyfrifiad 2001.)
  2. Cymry’r Gorllewin a drigai yn Ngwlad yr Haf, Dyfnaint, Dorset a’u cadarnle olaf, Cernyw - yr ardaloedd cyfeirir atynt heddiw fel De-Orllewin Lloegr. (Siaredid Cernyweg, sydd yn chwaer-iaith i’r Gymraeg, hyd at y 18fed ganrif pan fu farw olaf o’r siaradwyr uniaith. Ond yn ôl y sôn, goroesodd nifer fach o bobl a fedrai siarad cryn dipyn ohoni hyd at ddechrau’r 20ed ganrif pan gychwynodd y broses o atgyfodi’r iaith. Ceir tua 300 o siaradwyr hollol rugl a thua 3,000 o ddysgwyr erbyn hyn.) Ffodd nifer fawr o Cymry’r Gorllewin i Lydaw - (mae Llydaweg, a siaredir gan tua 270,000 yn ôl Cyfrifiad 2001, yn fwy tebyg i Gernyweg na’r Gymraeg.)
  3. Cymry Ystrad Clud a drigai mewn lleoedd sydd, erbyn hyn, yn rhannau o Dde’r Alban a Cymbria (Rheged) yng Ngogledd-orllewin Lloegr.

Ymsefydlodd rhai ohonyn nhw dros eu ffinniau gogleddol ym Manaw Gododdin, Ardal Clackmannan yn yr Alban Modern (o’r Gaeleg Clach Mhanainn, ‘Maen Manaw’). Polisi y Rhufeiniaid oedd hybu rhai o’r llwythi nad oedd dan eu rheolaeth gyda phres (a’r hawl i feddianu’r holl dir roedden nhw wedi’i cipio) i wrthsefyll eu gelynion mawr – yn yr achos hwn, er mwyn cadw’r Brithwyr yn bell o’r Ymherodraeth.

Milwyr o fri oedden nhw ac mi ddaeth nifer ohonyn nhw i diroedd Cymru’r Gogledd i frwydro yn erbyn yr Gwyddelod (gelyn mawr arall i’r Rhufeiniaid a’u dilynwyr Brythonig) oedd wedi goresgyn Llyn, Arfon, Arllechwedd a rhannau o Ynys Môn. Yn ôl y mynach Nennius (oedd yn ysgrifennu yn y flwyddyn 800 efallai), eu harweinydd oedd Cunedda ap Edern sef Cunedda Wledig neu yn Lladin, Cunetacius (c.386 – c.460). Mi ddaeth o â’i 8 mab a’u byddin o Fanaw Gododdin. Wedi trechu’r Gwyddelod, rheolodd o a’i plant a’i wyrion rannau helaeth o Gymru.

Dyma rai a roddodd eu henwau i’w tiroedd eu hunan:

  • Aflog, a reolodd Aflogion (Cafflogion, Llŷn)
  • Ceredig a reolodd Ceredigion
  • Dogmael, a reolodd Dogfeiling (Dyffryn Clwyd)
  • Dunod, a reolodd Dunoding (rhannau o Eifionydd ac Ardudwy)
  • Edern, a reolodd Edeirnion (Ardal Corwen)
  • Einion Yrth, a reolodd Caereinion (Powys)
  • Rhufon, a reolodd Rhufoniog (Ardal Dynbych)
  • Tegeingl ferch Cunedda a reolodd ardal Sir y Fflint fodern a thu hwNt
  • Meirion, a reolodd Meirionydd

(Afon Teifi oedd eu ffin deheuol - Oedd y cymeriad Gwawl fab Clud yn portreadu arweinydd lluoedd Ystrad Clud i drigolion Dyfed?)

Ond nid yr unig rai a ddaeth o'r Hen Ogledd i feddiannu Gogledd Cymru oedd Cunedda a'i feibion - daeth Elidir Mwynfawr, ac yn ei sgîl Clydno Eiddyn efo'i luoedd yn y 6ed ganrif. Ond yn yr achos hwn, ofer oedd eu ymdrechion. Lladdwyd nhw gan wyr Arfon ger Clynnog. Gweler 'Clynnog yn ein Llenyddiaeth Gynharaf Un' Linc mewnol: Agorir mewn ffenestr newydd.

Ymfalchiai Tywysogion Gwynedd dros eu hachau oedd yn olrhain yn ôl i Cunedda yn Oes y Rhufeiniaid. (Yn ôl y sôn, gwylltiai Edward 1af, Brenin Lloegr am hynny.) Hefyd, mae’n debyg fod nifer fawr o drigolion Cymru fodern yn ddisgynyddion o Gymry Ystrad Clud.

Yn 870 cafodd Allt Clud ei chipio gan Lychlynwyr Gwyddelig a symudwyd y brif-ddinas i’r de o Afon Clud i Govan. Yna cyfeirid at y dernas gyfan fel Cymbria neu Rheged.

Yn y diwedd, collodd Cymry Ystrad Clud eu teyrnas eu hunan, yn ystod y 10 - 11fed ganrif i ddau elyn:

  1. Yr Ysgotwyr (Scotti yn Lladin), a oedd o dras Gwyddelig a sefydlodd yng Ngorllewin yr Alban (Dalriada) yn y 4ed Ganrif efallai. Ddaethasant efo’u hiath eu hunan a esblygodd i Gaeleg yr Alban
  2. Y Northymbriaid a ddaeth efo’u hiath Eingl-Sacsoneg a esblygodd i Scoteg – iaith sydd yn wahanol iawn i Saesneg fodern

Ond siaradai rhai o Gymry Ystrad Clud eu hiaith brythoneg (oedd yn debyg iawn i Hen Gymraeg) hyd at y 13ed ganrif.

Cyfeirir at Gymry Ystad Clud yn Lladin fel 'walensis' yn nogfennau’r cyfnod ac mae’n bosibl y tardodd yr enw Wallace (ac enwau tebyg) yn Ne-orllewin yr Alban. Ond yn achos arwr mawr yr Alban, William Wallace, (1272 - 1305, a aned yn Elderslie, Renfrew,) doedd o ddim yn ddisgynnydd i Gymry Ystad Clud yn unig: Fe ddaeth ei gyn-deidiau o Gymru neu le yn Sir Amwythig y siaredid Cymraeg ynddo yn ystod teyrnasiad David 1af 1124 –1153 a rhoddwyd yr enw Wallace iddyn nhw gan eu bod nhw’n medru iaith mor debyg i’r iaith o’u gwmpas nhw.

Cyd-ddigwyddiad?

Dywedir yn aml y cafodd hen Sir Maesyfed ei henwi ar ol rhywun o’r enw Hefeydd. Does neb yn gwybod pwy yn unig oedd yn dyn hwn, yn arbennig gan fod yr enw yn un mor boblogaidd yn y gorffennol. Ond hefyd, mae’n ddiddorol iawn gweld yr enw Fforest Clud (neu Fforest Maesyfed) ym Maesyfed, y lleiaf o Hen Siroedd Cymru – ydy hynny’n fwy na chyd-ddigwyddiad, tybed?

Yn ôl hen draddodiad yr ardal, mi drechodd Archangel Mihangel y ddraig olaf a mi gafodd ei charcharu wedyn yn Fforest Clud. Efallai, roedd y Fforest yn un o gadarnleoedd olaf y paganiaid a dyma pam, medden nhw, yr amgychynir Fforest Clud gan bedair eglwys - Llanfihangel Cefnllys, Llanfihangel Rhydithon, Llanfihangel Nantmelan and Llanfihangel Cascob - pob un efo'r un nawddsant, Mihangel.

I'r Cristnogion cynnar, roedd y ddraig yn sumbol beiblaidd o baganiaeth. Ond cariai'r llengoedd Rhufeinig ystondard y ddraig; felly mi ddaeth yn ddelwedd gref i Dywysogion Gwynedd - roedd yn gysylltiad cryf i'w hen deidiau pell yn ôl, sef etifeddwyr yr hen drefn Rhufeinig.

Petasai hynny’n hollol wir, roedd unrhyw un o Fforest Clud yn ymddangos yn estron, llawn hud a lledrith ac yn hynod o beryglys i bobl Dyfed.

Map Cainc 1 a 2

PRESELAU - Mynydd Preseli yn Nyfed, yn llawn olion cynhanesyddol, yn enwedig claddfa Pentre Ifan (SN100360). Roedd yn lle pwysig ym mywydau crefyddol pobl yr oes a fu a chan ei fod mor arbennig, mae’n debyg y cafwyd y Meini Gleision eu cludo o Garn Menyn (SN144325) ym Mhreseli i Gor y Cewri (SU122422) ar Wastadedd Caersallog yn Lloegr.

GWENT IS COED - (gweler fap y cantrefi Linc mewnol: Agorir mewn ffenestr newydd) Arglwyddiaeth Teyrnon Twrf Liant. Mae rhai yn cysylltu’i enw a’r enw Brythoneg Tigernonos, duw celtaidd mewn ffurf hanner dyn, hanner carw -“Y Brenin Mawr”. (Dyma gysylltiad ceffylaidd eto - Wedi achub ei ebol newydd-anedig o’r anghenfil, daeth Teyrnon o hyd i fab Rhiannon a Phwyll, Pryderi.

NANT TEYRNON- Ceir y llecyn tua 2 filltir i’r gogledd o Gaerleon yn Went, lle codwyd Abaty Llantarnam (ST313928) yn 1179. (Gweler y map o Geinciau 1 a 2, uchod).

SEISYLLWCH - sydd yn cynnwys: Ystrad Tywi (3 cantref) + Ceredigion (4 Cantref [3 yn ddiweddar]). Gweler fap Cantrefi Cymru yn yr Oesoedd Canol Linc mewnol: Agorir mewn ffenestr newydd.


YMWADIAD PWYSIG: ER GWYBODAETH YN UNIG Y DARPERIR Y MANYLION HYN AM LEOLIADAU. OS NAD OES LLWYBRAU CYHOEDDUS YN ARWAIN ATYNT, NI DDYLAI NEB YMWELD Â'R SAFLEOEDD HEB GANIATÂD.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys