Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol (YmTic) Dyffryn Nantlle

 
 
 

Tai i Bobl Dyffryn Nantlle

Ydych chi'n chwilio am dŷ i'w brynu yn Nyffryn Nantlle?

Oes gennych chi gysylltiadau cryf efo'r ardal?

Ydych chi wedi methu fforddio prynu tŷ addas ar y farchnad agored?

Grwp tai cymunedol yw Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Dyffryn Nantlle (YmTic Dyffryn Nantlle yn fyr), a gafodd ei sefydlu yn 2006 er mwyn darparu tai o safon uchel i bobl Dyffryn Nantlle sydd yn awyddus i brynu tŷ ond yn methu fforddio prynu tŷ addas ar y farchnad agored.

Os oes gennych chi gysylltiadau lleol cryf efo Dyffryn Nantlle (dalgylch Ysgol Dyffryn Nantlle) ac yn chwilio am dŷ i'w brynu yn yr ardal, 'rydym yn awyddus i glywed gennych chi. Buasem yn falch clywed gan rai sydd a diddordeb mewn prynu safle i adeiladu tŷ eu hunain hefyd.

Mae'r YmTic yn cael ei reoli gan bobl o Ddyffryn Nantlle, ac mi fyddwn yn falch clywed gan bobl sydd รข diddordeb mewn ymaelodi.

Manylion Cyswllt

Post

YmTic Dyffryn Nantlle
Canolfan Dechnoleg Antur Nantlle
20 Heol y Dŵr
Penygroes
Gwynedd
LL54 6LP

Ffôn

07970 574068

eBost

ymtic-dn@hotmail.co.uk

Gwybodaeth Bellach

  »»  Asesu anghenion tai ardal Cyngor Cymuned Llandwrog

  »»  Holiadur Dogfen Microsoft Word (71kb)

Gwybodaeth cyffredinol am YmTiciau

Safle wê Rhwydwaith YmTiciau

  »»  http://www.communitylandtrust.org.uk/ Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

Land for People

  »»  http://www.landforpeople.co.uk/ Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

YmTiciau yn Cumbria

  »»  http://www.crht.org.uk/index.php?option=com_content&view=category&id=46&Itemid=70 Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

YmTiciau yn America

  »»  http://www.cltnetwork.org/ Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys