Hanes Dyffryn Nantlle

Clynnog Fawr

 
 
 

Robert ap Gwilym Ddu ~ 1766-1850

Un o feirdd mwyaf Cymru

Deuai ei fam, Jane Parry o Frynhafod, Capel Uchaf, Clynnog ac roedd Robert ap Gwilym Ddu (Robert Williams) yn berchen ar lain o dir Ty'n-y-mynydd (yr ochr isaf i'r lôn ger Bryngolau, Capel Uchaf. Gwelir y llain hwn ar Fap y Degwm, 1841. (Gweler Y Ffynnon, Chwefror 1989).

Ei emyn mwyaf adnabyddus yw:

Mae'r gwaed a redodd ar y groes
O oes i oes i’w gofio,
Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn
I ddweud yn iawn amdano...

Un o alarnadau dwysaf ac enwocaf yr iaith yw'r awdl a ganodd ar ôl colli ei ferch yn un ar bymtheg oed. Ceir rhan o'r gofiant yma:

... Angau arfog, miniog, mawr,
Ar ei gadfarch ergydfawr,
Wele yma carlamodd,
A’i rym a’i egni a rodd;
Torrodd i lawr, drwy fawr feth,
Ein diddig, unig eneth...

Ymholais, crwydrais mewn cri; - och alar!
Hir chwiliais amdani;
Chwilio’r celloedd oedd eiddi,
A chwilio heb ei chael hi.

Rhagor o wybodaeth

  »»  http://wbo.llgc.org.uk/cy/c-WILL-ROB-1766.html Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys