Hanes byr y Bedyddwyr
Bach ym mhlwyf Llanllyfni
Dechreuodd achos y Bedyddwyr yn ein hardal yn 1787,
ond daeth ymraniad yn 1802-3 o dan arweiniad John R
Jones Ramoth - Plwyf Llanfrothen. (Codwyd Ebeneser,
Felingerrig ar ôl cryn drafferth gan weddill
y gynulleidfa a wrthododd y achos newydd yn 1826.)
Eu henw swyddogol oedd "Bedyddwyr Neilltuol Yng
Nghwynedd" ond galwyd nhw gan rai yn "Bedyddwyr
Albanaidd" oherwydd cawsant eu hysbrydoli'n gyntaf
gan Archibald Maclean o Gaeredin yn yr Alban, neu "Bedyddwyr
Bara a Chaws" oherwydd eu harfer o ddod â bwyd
efo nhw i'r capel.
Mynnai eu gwrthwynebwyr eu galw yn "Sandemaniaid" o
achos y tebygrwydd rhwng y rheini a rhai o'u harferion
- am fod ganddynt gynifer o flaenoriaid, cymuno bob
saboth, y gariadwledd, y gusan sanctaidd, golchi traed,
a.y.y.b. Ond gwrthododd John Jones yr enw yn gadarn,
gan fynnu bod Robert Sandeman o blaid bedyddio babanod
- defod oedd yn holloll anysgrythurol.
Yn Nhai'n Lôn, Llanllyfni, 16 aelod yn unig
oedd nifer yr aelodau yn 1836."Mae ein proffes
yn rhy syml, anfwythus, a hunan ymwadol i ennill llawer
o ddilynwyr" meddai John Jones.
Erbyn 1865, dim ond 3 aelod a addolai yng nghapel
bychan Tŷ'n Lôn sef William a Marsley Hughes,
brawd a chwaer (dau gymeriad diniwed a duwiol) a'r Doctor
David Jones, (mab ieuengaf y meddyg enwog o Fynydd
Llanllyfni).
Ar un adeg deuai'r Saint i Dŷ'n Lôn o Harlech,
Penrhyndeudraeth, Trefor a Chaernarfon. Deuent yn y
bore ac aros drwy'r dydd. Yr oedd rhan neilltuedig
o'r capel wedi ei gau, lle'r arferent fwyta yn achlysurol.
Byddai cyfeillion o gylch y capel yn gofalu am ferwi
dŵr iddynt i wneud tê, a hefyd yn gofalu
am y llestri. Dyma ddisgrifiad y ddiweddar Barchedig
Owen Davies Arthog, o'r Capel: "Yr oedd yn gapel
bach cyffyrddus iawn, gyda llawr pridd wedi'i orchuddio â matiau
gwellt, a phlatiau eirch yn hongian ar y muriau".
Gyda chymorth Y Parchedig William Ambrose (Emrys)
Porthmadog, llwyddodd yr Annibynwyr i gael benthyg
y Capel ryw unwaith neu ddwy bob deufis ar yr amod
fod y ddau enwad yn cyd-addoli. Cafwyd y bregeth gyntaf
12 Chwefror 1868 gan y Parchedig John Davies, Nasareth.
Yn 1870, penerfynodd yr Annibynwyr godi capel newydd
(Moreia), a agorwyd ar Ddydd Dyrchafael 1871.
Llun: Mynwent
y Bedyddwyr Albanaidd.
Cynnal a chadw mynwent y Bedyddwyr Albanaidd
"Cynhaliwyd cyfarfod yn y Groeslon, Nos Iau Hydref
19ed 1905 - Penderfynwyd yn unfrydol i gasglu addewidion
(targed £30) ar yr amod y ffurfid Bwrdd penodedig
i ofalu am y lle. Disgwylir cynorthwy sylweddol gan
deuluoedd y rhai sy'n tawel huno er dwyn y mater
i derfyniad boddhaol.
William Williams
Ysgrifennydd
7 Newborough Street
Caernarfon
20 Hydref 1905"
Yn y llyfr cownt, sydd i'w weld yn yr Archifdy yng
Nghaernarfon, does dim un cyfraniad neu addewid.
Mae gan eu disgynyddion yr hawl i gael eu claddu yno
ond, does neb yn gwybod yn bendant pwy yw perchennog
y fynwent. |