Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Hanes Capel Nasareth cyn 1890

Capel NasarethCyflwynwyd y pregethu cyntaf yn Llwynbedw gan Mr D Griffiths, Talysarn. Agorwyd y capel cyntaf ar Orffennaf 4ydd 1823 â "Baich o Ddyled". Wedi i D Griffiths adael, daeth y cysylltiad â Thalysarn i ben - daeth nifer o weinidogion ond nid arhosai neb yn hir. "Yr roedd rhyw elfennau yn y lle yn milwrio yn fawr yn erbyn llwyddiant yr achos." Unwyd â Phant-glas a Sardis ac ordeiniwyd Mr Richard W Roberts ond yn fuan, aeth i Glarach a Salem, Sir Aberteifi.

Llun: Capel Nasareth.

Yn 1857, daeth Mr John Morgan i gadw ysgol - ar gyfnod gwan iawn yn yr achos - dim ond 3 o bobl. Roedd yr addoldy wedi dadfeilio ac roedd ganddynt ddyled drom - dim digon hyd yn oed i dalu'r llog ar y ddyled. Dyn egnïol oedd J. Morgan - trwsiwyd y capel, aildrefnwyd y gyfundrefn a phenodwyd ymddiriedolwyr newydd.

Talwyd y llog a £100 o'r ddyled gan Mr Griffiths, Bethel. Ymunodd ugeiniau o aelodau newydd hefyd, yn enwedig, yn sgîl Diwygiad 1859. Yn 1866, aeth J. Morgan i Sir Aberteifi. Yn rhydd o'r dyled, penderfynwyd codi capel newydd ond, o edrych yn ôl, yr oedd yn rhy ddrud i'r eglwys a'r gynulleidfa. Ceisiodd yr aelodau yn galed i ostwng y ddyled o £700. Agorwyd y capel newydd ar yr ail a'r 3ydd o Orffennaf 1867. Er bod digon o bobl yn yr ardal roedd yn anodd cadw gweinidog, ond yn niwedd 1867, rhoddwyd galwad i Mr John Davies, Coedpoeth, a ordeiniwyd ar 10fed Ionawr 1868 ond dirywiodd ei iechyd ac aeth i Drefriw fel gweinidog rhan amser. Aeth dyn lleol, Daniel Roberts yn weinidog i Lanberis.

Ganwyd y Parchedig William B Roberts ger Conwy tua 1836. Aeth i'r ysgol ym Mhontypridd ac i'r Athrofa, Caerfyrddin. Symudodd i America yn syth o'r coleg. Fe'i hordeiniwyd yn Efrog Newydd. Dychwelodd i Gymru tua 1874 ac fe'i penodwyd ef yn weinidog i Nasareth a Phant-glas. Bu farw ei wraig a "chyda thwr o blant" roedd yn rhaid iddo weithio yn galed. Dyn galluog ydoedd, ond ni allai pawb werthfawrogi ei ddawn. Dioddefai o broblemau meddyliol ym misoedd olaf ei fywyd. "Teimlai pawb bod rhywbeth yn ddierth o'i gylch, er nad ofnai neb unrhyw berygl. Pa fodd bynnag, cafwyd ef wedi lladd ei hun ar 2 Fai 1889. Claddwyd ef yn barchus ac yr oedd y rhai a oedd yn ei adnabod orau yn meddwl llawer ohono, ac roedd yna gydymdeimlad mawr i'w blant amddifaid."

Y Capel heddiw

Y Capel ei hun
Llun: Y Capel ei hun.

Y Capel a'r ardd
Llun: Y Capel a'r ardd.

Yr olygfa o ardd y Capel
Llun: Yr olygfa o ardd y Capel.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys