Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Capel Nebo

Capel NeboEr yr ymddengys fod y fro fynyddig hon yn llawnach ei phoblogaeth na’r rhannau isaf o’r plwyf, eto ni chafwyd yno le o addoliad hyd y flwyddyn 1826, ond cynhelid Ysgol Sul ers 1809 mewn tŷ bychan o’r enw Tan-y-Fron gerllaw Nasareth. Symudwyd oddi yno i dŷ Catrin Salmon yn agos i Rhwng-y-Ddwy afon. Yma cynyddodd yr Ysgol Sul fel y gorfodid ei chynnal mewn tri o dai. Gofalid amdani gan Robert Evans, Cil-Llidiart; Hugh Hughes, Caerau; a John Pritchard, Tirion Pelyn.

Llun: Capel Nebo.

Peidiodd yr ysgol am gyfnod pan adeiladwyd addoldy yr Annibynwyr yn Nasareth, ond ail-gychwynwyd yr ysgol yn Maes-y-Neuadd, ac oddi yno i le o’r enw Pencraig, cartref John Michael, (perthynas efallai i Michael Prisiart) a gofelid am yr ysgol ganddo ef a Gruffydd Williams, Taleithin. Symudwyd drachefn i’r Taldrwst, a gofelid amdani gan Thomas Edwards, gŵr y tŷ, William Roberts Buarth y Foty, a Williams Roberts, Cae’r Engan.

Yn 1825 prynwyd tir gan Hugh Robert Ismael, Glan-y-Gors am bum gini, yn safle i adeiladu ysgol arno, yn y man ble saif addoldy (Capel Bach) Nebo heddiw - adeiladwyd yr ysgol gan Williams Williams Tan-y-Fron yn 1826.

Gofelid am y gwaith gan Owen Edwards Coed-Cae-Du ac Evan Roberts Dolwenith. Llawr pridd oedd i’r adeilad cyntaf, a meinciau coed i eistedd arnynt. Wedi gorffen y capel daeth y rhai oeddynt ar wasgar yn ôl, sef aelodau ysgol Sul y Taldrwst, y rhai oeddynt wedi mynd i Nasareth a Llanllyfni. Arolygwr cyntaf yr ysgol newydd oedd Richard Gruffydd, Pen yr Yrfa, ond dywed "Asiedydd" yn y "Cymru" mai Ellis Roberts, Pant yr Arian oedd y cyntaf. Holwyr cyntaf oeddynt John Williams, Pandyhen a Hugh Williams, Pen Isa’r Lôn. Yr arweinwyr canu cyntaf oeddynt Richard Williams Maes y Neuadd, a William Evans, Talymaes.

John Williams, Llecheiddior a bregethodd gyntaf yn y Capel Bach, ar ‘bnawn Sul Ionawr 1827. Wedi hyn gafwyd cyfarfodydd eglwysig, dan arweiniad un neu ddau o flaenoriaid Llanllyfni.

Rhifau’r ysgol oedd wyth ar hugain yn 1828. A deng mlynedd yn ddiweddarach trefnwyd Mynydd Llanllyfni yn daith gyda Thalysarn.

Sefydlwyd yr eglwys yn 1843. Buasid wedi gwneud flwyddyn ynghynt onibai am y gwrthwynebiad o Lanllyfni oherwydd fod dyled o £700.00 ar y lle. Rhifau’r eglwys ar ei sefydliad oedd 36, ond talent eu casgliad misol yn Llanllyfni hyd 1846. Trefniant oedd hwn ar gyfer y Weinidogaeth.

Priodol fyddai rhestru gwyr amlycaf yn hanes yr ysgol a’r achos yn ei ddechreuad, a dyledus ydynt o’u cofio:

  •  Robert Williams, Tŷ Capel.
  •  Hugh Jones, Blaen-y-Foel
  •  John Pritchard, Penpelin
  •  John Williams, Pant y Pistyll
  •  Ellis Roberts, Pant yr Arian
  •  Williams Pritchard, Tŷ Cerrig
  •  Hugh Robert Ismael, Glan y Gors
  •  Williams Williams, Tan y Fron
  •  Thomas Jones, Glan y Gors
  •  Robert Williams, Pen y Mynydd
  •  Robert Gruffydd Bryn y Person
  •  Morgan Jones Tal y Maes.
  •  Owen Morris
  •  Owen Ellis, Nazareth
  •  Dafydd Gruffydd, Tŷ’r Capel (a laddwyd yn un o chwareli Dyffryn Nantlle)
  •  Williams Roberts Nant y Noddfa (a aeth i America).

Yn ddi-os, doedd y rhan fwyaf o'r blaenoriaid a sonwyd amdanynt ond yn medru darllen tipyn bach, ond dywedwyd am Hugh Robert Ismael ni fedrai ddarllen o gwbl; ond y bu iddo gael cymaint o bleser wrth wrando ar eraill mai prin ydoedd yn absennol.

Roedd rhifau'r Ysgol tua 64 yn y cyfnod hwn.

Y mae rhestr llawr o'r rhai a aeth o Lanllyfni i Nebo pan sefydlwyd y capel bach yn"Hanes Methodistiaeth yn Arfon" gan Rev. W Hobley.

Richard Roberts Bodychain and Richard Gruffydd Pen Mynydd a ddewiswyd fel blaenoriaid yn 1844. Mae'n debyg eu bod nhw y dau gyntaf. Rhyw Moses Jones o Lyn (a dalwyd dau swllt) oedd y cyntaf i bregethu wedi'r eglwys cael ei sefydlu.

Rhestr o'r Blaenoriaid:

  •  Robert Richards, Bodychain 1844
  •  Richard Gruffydd, Penmynydd
  •  Robert Williams Garreg Lwyd 1850
  •  William Jones Nasareth 1856
  •  William Gruffydd, Bryn Bugeiliad 1859
  •  Gruffydd Jones, Tal y Mignedd 1870
  •  Dafydd Gruffydd Llythyrdy
  •  Hugh Williams, Glan Gors 1873
  •  William Roberts, Tyddyn Hen
  •  Gruffydd W Jones, Nasareth 1883
  •  David Roberts, Maes y Neuadd
  •  John Edwards 1889
  •  T H Gruffydd ( Arfonydd)
  •  John Hughes, Bryn Ffynnon 1990
  •  Evan Jones, (Ieuan Nebo)
  •  Owen Morris (Owain Meuric) 1914
  •  Edwin O Roberts, Nant Gwyddil

Gweler hefyd

  »»  Dathlu canmlwyddiant Capel Nebo

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys