Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Cors y Llyn

Cors y LlynSaif Cors y Llyn rhwng Pentref Nebo a Llyn Cwm Dulyn mewn man arbennig o brydferth gyda golygfeydd o Eryri yn ei gogoniant.

Mae gwybodaeth am Gors y Llyn yn y ddogfen ‘Arolwg Biolegol o Diroedd Comin - Rhanbarth Arfon‘ hefyd ‘Arolwg Tir Gwlyb Cymru’.

Mae'r gors yn cael ei disgrifio fel lle gwlyb iawn, efallai yn rhy wlyb i bori da byw. Yn 1991 (adeg yr arolwg), roedd y safle mewn cyflwr da ac roedd cyn lleied o losgi a draenio wedi gwneud lles mawr i'r bywyd gwyllt.

Mae yna blanhigion fel eurinllys y gors, llugaeron, helyg, peiswellt, tegeiriannau a chyfoeth o fwsoglau a llysiau'r iau gyda 12 rhywogaeth o figwyn. Roedd y prysgoed yn cynnig safleoedd addas i adar a thrychfilod, a chofnodwyd y llinos a bras y gors yn ystod yr arolwg.

Ceir 22% o'r comin (y darn canolog) ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ond mae'r gweddill wedi ei gofrestru fel tir Cyngor Plwyf Llanllyfni, ac mae'n debyg mai cyfrifoldeb Cyngor Plwyf Llanllyfni yw rheoli'r safle. Cofrestwyd y gors fel Safle Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys