Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Cyfansoddiad Pwyllgor Ardal Nebo a Nasareth

06-06-2002

Enw

Enw’r gymdeithas yw "Pwyllgor Ardal Nebo a Nasareth".

Amcanion

1. Hyrwyddo lles y gymuned yn ddiwyllianol, economaidd a chymdeithasol.

2. Cynnal yr ystafell ardal.

3. Trefnu gweithgareddau

Aelodaeth

Holl drigolion Nebo a Nasareth sydd dros 16 oed.

Rheolaeth

Mae’r pwyllgor rheoli yn agored i unrhyw aelod. Bydd angen chwe aelod mewn unrhyw gyfarfod cyn gwneud penderfyniad.

Cyfarfodydd

Cynhelir pwyllgor rheoli unwaith y Mis. Cynhelir cyfarfod blynyddol ymhob mis Mehefin. Bydd rhybudd ysgrifenedig o’r cyfarfod o leiaf 10 diwrnod o flaen llaw. Bydd angen i chwe aelod fod yn bresennol i gynnal cyfarfod blynyddol.

Swyddogion

Ymhob cyfarfod blynyddol, bydd cadeirydd, is-gadeirydd, ysgrfennydd a thrysorydd yn cael eu hethol ymhlith yr aelodau. Disgwylir i bob swyddog fod mewn swydd am o leiaf flwyddyn. Mae pob swyddog yn gymwys i’w ailethol.

Newidiadau i’r cyfansoddiad

Bydd unrhyw newid i’r cyfansoddiad yn cael ei wneud un ai mewn cyfarfod blynyddol neu mewn cyfarfod arbennig. Bydd rhybudd o o leiaf 10 diwrnod cyn unrhyw gyfarfod. Bydd angen chwe aelod yn bresennol i newid y cyfansoddiad.

Ariannol

Bydd gan y pwyllgor rheoli yr hawl i weinyddu'r gronfa ariannol i hyrwyddo amcanion y gymdeithas.

Bydd y trysorydd yn paratoi mantolen ar gyfer y cyfarfod blynyddol. Bydd popeth a brynwyd ar ran y gymdeithas yn dal yn eiddo i'r gymdeithas.

Dirwyn y gymdeithas i ben

Os penderfynir rhoi terfyn ar waith y gymdeithas, rhennir unrhyw arian neu eiddo gyda chymdeithas neu gymdeithasau elusennol eraill sydd ag amcanion tebyg i rai y gymdeithas hon.

Cyfetholiad

Bydd gan y pwyllgor yr hawl i gyfethol unrhyw un o'r tu allan i'r ardal, fel y bo'n briodol.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys