Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Mast Nebo

Saif Mast Nebo dros 1000 o droedfeddi o uchderCodwyd Mast Nebo (Trosglwyddydd Arfon) yn 1963 i ddarparu gwasanaeth ITV i Lŷn, Eifionydd ac arfordir Ardudwy. Er mwyn derbyn y signal wedi'i anfon o Fast Preseli yn Sir Benfro, ac i ddarlledu dros y mynyddoedd, roedd rhaid gosod mast tua 309 metr (1,012 troedfedd) o uchder, wedi'i leoli ar gopa bryn 297 metr (971 troedfedd) yn uwch na'r môr.

Ond ar ôl ychwanegu antenna trosglwyddydd teledu newydd ym Mis Mawrth 2008, mae'n 317 metr (1,041 troedfedd) o uchder. Felly, hwn yw'r adeiladwaith uchaf yng Nghymru.

Llun: Mast Nebo.

Daeth y signalau teledu analog i ben yn llwyr 18.11.2009. Rwan ceir 16 sianel teledu, 14 sianel radio a 7 sianel gwybodaeth.

Mae manylion llawn am y gwasanaeth Digidol newydd ar gael ar wefan www.digitaltelevision.gov.uk Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd.

Hefyd, mae'n trosglwyddo'r orsaf radio genedlaethol, annibynnol Classic FM (100.7) a'r orsaf radio lleol, Heart FM / Champion FM (103.0), ond dim radio BBC ar FM neu AM. Ceir DAB hefyd drwy Digital One, y rhwydwaith genedlaethol radio digidol.

Perchennog y trosglwyddydd di-griw yw Arquiva.

Luniau gwych o'r mast ac oddi ar y mast

  »»  http://tx.mb21.co.uk/gallery/arfon/index.php Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys