Mathonwy Hughes
~ 1905-1999
Un o hogia' Dyffryn Nantlle
Ganwyd
yn unig blentyn ym Mryn Llidiart, tŷ yng
ngodre'r mynydd, Cwm Silyn. Lle a fu gartref i dair
genhedlaeth, ac a gododd ddau Brifardd. Tyddyn tair
erw a buwch oedd Bryn Llidiart, pan oedd Mathonwy yn
blentyn. Aeth neb i Fryn Llidart ar eu holau hwy. Amser
fu unig denant y lle byth wedyn a hawliodd y mynydd
ei eiddo yn ôl ers blynyddoedd.
Llun: Mathonwy Hughes. Dechreuodd ei addysg gynnar yn Ysgol Nebo yn 7 oed,
ond nid oedd yn blentyn iach a dioddefodd gryn waeledd.
Oherwydd ei waeledd, collodd gyfle i fynychu Ysgol
y Sir ym Mhenygroes, ond yn hytrach, aeth i'r ysgol
yng Nghlynnog.
Cerddai trwy dair milltir o gorsydd, ymhob tywydd
i gyrraedd yr ysgol, gyda'i ginio o frechdannau gydag
o. Roedd Nebo bryd hynny yn ysgol lawn i fyny i'r seithfed
safon.
Cyfnod hapus oedd hwnnw yn Nebo i Mathonwy
dan oruwchwyliaeth y prifathro T.H. Griffith A.,
ac er i'r prifathro fod
yn Gymro glân, Saesneg oedd iaith yr ysgol. Roedd
hefyd yn cadw siop. Ni allai Mathonwy ddirnad sut yr
oedd Mr Griffith yn siarad Cymraeg gyda mam Mathonwy
yn y siop, a Saesneg pob gair efo'r plant yn yr ysgol.
Roedd Mathonwy yn selog iawn yng Nghapel Tanyrallt,
ble cynhelid cyfarfodydd llenyddol o fri, gyda chystadleuwyr
yn teithio o bell i gystadlu, a hynny ar Ddydd Nadolig.
Dau ddyddiad oedd yn bwysig i blentyn y cyfnod hwnnw:
diwrnod Ffair Llanllyfni ar y 6ed o Orffennaf (Gŵyl
Rhedyw Sant), a Diwrnod Cwrdd Llenyddol Capel Tanyrallt
ar Ddydd Nadolig.
Daeth y rhyfel ac roedd Mathonwy yn benderfynol
o beidio ag ymuno â'r fyddin, am na fedrai ei ddychmygu
ei hun yn lladd neb, ac roedd yn ei eiriau ei hun yn
ormod o gachgi i fod yn wrthwynebydd cydwybodol, felly
ymunodd â'r Gwasanaeth Gwladol ac ar ôl
y rhyfel fe gafodd wahoddiad gan Wasg Gee i fod yn
is-olygydd y Faner, a derbyniodd yn llawen.
Roedd ei ewythr Silyn yn arloeswr ac fel un o sylfaenwyr
Cymdeithas Addysg y Gweithwyr cynigodd waith i Mathonwy
fel athro. Bu'n athro ar ddosbarth C.A.y.G. yn Ninbych
am gyfnod o 25 mlynedd .
Ugain oed oedd Mathonwy pan darawyd ef gan y clwy
cystadlu am gadeiriau eisteddfodol, ac enillodd ei
gadair gyntaf yn Eisteddfod Talysarn ar y testun
'Gwastadedd Meira' o'r Hen Destament. Enillodd dair
cadair yn y flwyddyn hon, ac un arall pan oedd yn 22,
cyn mynd ymlaen i ennill ei gadair gyntaf yn yr Eisteddfod
Genedlaethol.
Priododd ym 1954 ac enillodd Gadair Eisteddfod
Aberdâr
yn 1956: cychwyn am 7.00 o'r gloch y bore mewn fan
i nôl y gadair.
Cyhoeddodd nifer o gyfrolau pwysig, ac yn sicr enillodd
ei blwy fel un o brif lenorion ein gwlad.
Braint yw
cofio un o hogia' Dyffryn Nantlle. gan O.P Hughes |