Hanes Dyffryn Nantlle

Penygroes

 
 
 

George Fretwell

Diwrnod talu, Dydd Gwener ydoedd, tu allan i Chwarel llechi ger Pentref Cymraeg, Penygroes, Gogledd Cymru yn ystod dyddiau cynnar Rhyfel Gwrthffascaidd yn Sbaen. Roedd dyn yn arwerthu het gŵr milisia a sgarff gwraig milisia i godi pres i brynu ambiwlansau dros Sbaen.

Taflodd y gweithwyr llechi eu harian mân o’u pecynau cyflog, ond wedyn, er syndod i'r arwerthwr, daeth o hyd i ddau becyn cyflog heb eu hagor; cafodd ei gynhyrfu a'i boeni gan fod cyflog y gweithwyr mor bitw. Ac roedd hynny’n fwy hynod byth gan fod yr ardal mor nodweddiadol am ei chefnogaeth i Ryddfrydiaeth Lloyd George yn hytrach nag unrhyw draddodiad Sosialaidd.

Yr arwerthwr wrthffascydd oedd Douglas Hyde oedd wedi teithio nifer o weithiau drwy bentrefi Canolbarth a Gogledd Cymru er mwyn codi arian at y Gronfa Ambiwlans. Wrth iddo gyrraedd Penygroes, cynghorwyd fo i fynd at y chwarel i hysbysebu’r cyfarfod codi pres ac ymddangosiad ffilm ddogfen Ivor Montagu “Defence of Madrid” yn Neuadd y Pentref y noson honno.

George Fretwell Llun: George Fretwell.

O ganlyniad yr ymweliad hon bu i ddyn ifanc di-waith o'r pentref, George Fretwell, ymadael i Sbaen - ddywedodd o ddim wrth ei deulu i le aeth o, gofynnodd i’w frawd i gymryd gofal o'i feic ac yna mi ddiflannodd o: ysgrifennodd adref o Baris ac wedyn o Plaza del Fargo yn Sbaen. Chlywodd neb ddim byd mwy amdano fo.

Aelod selog ac yn sarsiant yn y Fyddyn Diriogaethol oedd George. Yn un o deulu o dri mab ac un ferch, collodd ei dad ei ddwy goes yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei fam amser caled wrth fagu’r plant ar bensiwn bychan o’r Fyddin.

Ddau fis wedyn ar 12eg o Chwefror 1937 lladdwyd George ym mrwydr gwaedlyd dros Bont Arganda yn Nyffryn Jarama - brwydr holl bwysig er mwyn rhwystro lluoedd Franco rhag torri’r ffordd rhwng Madrid a Valencia. Mi ddaeth i’r gâd am 7 y.b gyda dros 600 o’r Bataliwn Prydeinig; 12 awr yn ddiweddarach, llai na 150 atebodd y gofrestr enwau. Claddwyd George drannoeth gyda 30 eraill o’r Frigâd Ryngwladol mewn perllan olewydd.

Esboniodd Bill Rust yn ei lyfr “Britons in Spain” pa mor wael oedd arfau’r gwirfoddolwyr a wynebodd eu bedyddio tân - 'They steadily held their positions for hour after hour, under a broiling sun while death rained down on them. To retreat, to run away would have been easy. But these men had left their homes to fight Fascism, and the order of the day was "hold out at all costs". They held out and kept the enemy back. During these February days, the 12th, 13th and 14th, the Republican forces in the Arganda -Morata sector resisted the heaviest attacks of the entire battle of Jarama, and succeeded in bringing the fascist advance to a halt.' O ganlyniad i hynny achubwyd Madrid rhag y Fascwyr am ddwy flynedd arall.

Cofeb George Fretwell

Dim ond yn y flwyddyn ganlynol, 1938, dywedwyd wrth deulu George ei fod o ‘ar goll ac fe dybir ei fod yn farw’. Ond nid tan 1970 ddaethon nhw i wybod yn bendant sut ac ym mha le lladdwyd o, drwy wybodaeth gan un o’i gyd-filwyr Cymreig Glyn Evans oedd gyda George yn y Frigâd Ryngwladol yn Sbaen. Yn dilyn erthygl papur newydd am George yn y flwyddyn ganlynol, ymwelodd cyn-filwr arall George Magee o Sir Gaer â’r teulu gan ddweud wrthyn nhw ei fod ef yn y grŵp claddu.

Dadorchuddio cofeb George Fretwell ym MhenygroesPan cyrhaeddodd y newydd am ei farwolaeth Benygroes ym 1938, rhannwyd y pentref bach - gwelai rhai ef fel arwr ac yn falch ei fod o wedi gadael eu cymuned fach ac wedi marw dros Sbaen; eraill, wedi’u harswydo gan ei farwolaeth, yn ddichlon wedi iddo aberthu ei fywyd ifanc yn ddi-fudd.

Mae amser maith wedi mynd heibio i wella’r clwyf a’r un peth yn arbennig a unodd y gymuned fach oedd y penderfyniad i lansio apêl i godi pres am gofeb ym Mhenygroes i George Fretwell - syniad gan bobl a ddaeth i oed efo George ac a drafodwyd dros y blynyddoedd gan Bwyllgor Neuadd Goffa. Yn y diwedd, casglwyd £207 a phenderfynnodd y Pwyllgor brynu coflech a chloc llechfaen.

Ar 7ed Ionawr 1991 mewn seremoni a fynychwyd gan dros hanner cant o bobl, gan gynnwys ei frawd Dafydd, dadorchuddwyd y gofeb yn Neuadd Goffa.

Mae arno arysgrif:

ER COF AM GEORGE ERNEST FRETWELL
-----------
A GOLLODD EI FYWYD TRA YN YMLADD GYDA'R
FYDDIN RHYNG-GENEDLAETHOL YN RHYFEL
GARTREFOL YR YSBAEN 1936-1939
YN DYFFRYN JARAMA 12ed CHWEFROR 1937

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys