Hanes Dyffryn Nantlle

Nebo a Nasareth

 
 
 

Yr Hen Ddoctor Mynydd: David Thomas Jones ~ 1779-1839

Bu David Thomas Jones yn byw yn Hafod yr Esgob, Mynydd Llanllyfni, efo'i wraig Elizabeth (1781-1849) lle y plannon nhw ardd a oedd yn llawn o lysiau lleol ac estron. Weithiau, daethpwyd o hyd i blanhigion prin, degawdau ar ôl marwolaeth eu mab ieuengaf yn 1888.

Cyhoeddodd H. Humphreys, Caernarfon, 'Llyfr Hen Ddoctor y Mynydd' sef:

"LLYSIEULYFR TEULUAIDD JONES LLANLLYFNI yn dangos Rhinwedd Meddygol Llysiau a chyfarwyddyd i'w casglu, ac i'w cadw'n ddilwgr trw'r flwyddyn. Yn cynwys dros 100 o Ddarluniau, wedi eu lliwio yn ôl lliw y Dail. At yr hwn yr ychwanegwyd Llyfr arall, LLYSIEUAETH FEDDYGOL: gan y diweddar THOMAS PARRY, Tre'rgarth. Pris y ddau yn rhwym, 4s. 6ch a'r dail wedi eu lliwio, neu 3s. 6ch heb eu lliwio."

(Hysbyseb 1883)

Bedd y TeuluAr lethrau de-orllewinol Garnedd Goch mae Ffynnon y Doctor - mae'r dŵr oer i fod yn fuddiol i bobl efo crudcymalau, eryr a phroblemau eraill. Yn ôl y sôn, mae'n bosibl gweld y cerrig gwastad o'i chwmpas, ond mae'r grug wedi tyfu dros y rhan fwyaf ohonynt. Cynhalwyd profion ar ddŵr y ffynnon tuag ugain mlynedd yn ôl ond ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw wahaniaeth rhyngddi â dŵr y llyn, cronfa dŵr y Dyffryn. Pa mor ffodus rydyn ni!

Roedd ei fab David Thomas Jones (1824-1888), hefyd, yn enwog am feddyginiaeth. Cafodd rhai o'i foddion i blant eu gwerthu dros Ewrop ac America.

Fe'u claddwyd ym Mynwent y Bedyddwyr Bach (Albanaidd), Llanllyfni.

Llun: Bedd y Teulu.

"Er meddu ar y moddion - a wellant
Eraill o glefydon;
Angau trwch i'r llwch gell hon
Yma ddug y meddygon."

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys