Pentrefi Dyffryn Nantlle

Nantlle

 
 
 

Nantlle, Dyffryn Nantlle, Gwynedd.

Mae’n debyg y cafodd Tŷ Mawr a'r felin eu codi ar safle canoloesol, sef llys brenhinol Cymreig. Ar y tir hwn mae barics chwarel o'r 1860au sydd wedi cael ei addasu gan Awdurdod Datblygu Cymru i swyddfeydd a chanolfan gymuned.

Datblygwyd y pentre ar hyd y ffordd dyrpeg rhwng y 1850au a'r 1890au gan reolwyr hael Undodaidd Chwarel Pen yr Orsedd.

Llyn Nantlle Uchaf

Llun: Llyn Nantlle Uchaf.

Bu llys yr hen dywysogion Cymreig ym Maladeulyn. Bu Gerallt Gymro yma yn y ddeuddegfed ganrif pan oedd ar ei daith efo Archesgob Caer-gaint i annog y Cymry i ymuno â byddin Rhyfeloedd y Groes. Arhosodd Y Brenin Iorwerth y Cyntaf hefyd ym Maladeulyn ar ei daith yntau trwy Gymru yn 1283 ar ôl gorchfygu Llywelyn ein Llyw Olaf yn 1282.

Yr oedd dau lyn yn Nantlle ar un adeg, yr uchaf a’r isaf. (Mae’r gair Baladeulyn yn cyfleu hyn). Yr oedd hen ffordd o Dalysarn i Nantlle ar ochr ogleddol y llyn.

Y Ffridd, Baladeulyn, oedd hen gartref John Roberts, Llangwm, a Robert Roberts, Clynnog, y pregethwyr enwog.

Mwy o wybodaeth:

  »»  Hanes Nantlle

  »»  Bwletin Talysarn a Nantlle

  »»   Canolfan Llys Llywelyn Linc mewnol: Agorir mewn ffenestr newydd Dogfen Microsoft Word

  »»  Planning for Real

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys