Pentrefi Dyffryn Nantlle

Llanllyfni

 
 
 

Llanllyfni, Dyffryn Nantlle, Gwynedd

 

Mae Llanllyfni yn un o'r pentrefi hynaf yng Ngwynedd. Roedd y pentref yn ganolfan bwysig yn y dyddiau gynt gan mai yno yr arhosai’r goets fawr i gyfnewid ceffylau ar ei ffordd rhwng Porthmadog a Chaernarfon.

Yn Llanllyfni yr arferid cadw moch tewion dros nos ar eu taith o Eifionydd i farchnad Caernarfon, mewn lle o’r enw Penbryn Moch.

 

Llanllyfni

 

Llun: Pentref Llanllyfni.

 

Llanllyfni oedd canolfan y plwy ac yno yr oedd y fynwent. Yno y claddwyd John Jones Talysarn, ac y dywedir i’w gynhebrwng ymestyn yr holl ffordd o Dalysarn i Lanllyfni. Yn ôl Baner ac Amserau Cymru, Awst 26 1857, yr oedd yno 8 o feddygon, 65 o weinidogion a phregethwyr - bob yn dri; 70 o flaenoriaid - bob yn bedwar; 200 o gantorion a chanotoresau - bob yn chwech; oddeutu 4,000 o feibion a merched - bob yn chwech, (ychwanegwyd efallai ddwy fil at y nifer hwn ym Mhenygroes, ar y ffordd i Lanllyfni), yna yr elorgerbyd, yna y perthynasau mewn 40 o gerbydau ac ar 15 o feirch. Yr oedd tair arch am y corff - arch dderw gref, arch fahogani (yn rhodd gan gyfaill iddo o Gaernarfon), ac arch o gerrig nadd o’r chwarel.

Roedd Llanllyfni yn ganolfan siopa bwysig a dyma’r siopau oedd yno yn yr 1890au:

Siop Uchaf, Siop Liverpool House, Siop London House (siopau mawrion yn gwerthu blawdiau a phopeth oedd y rhain), Siop Rhedyw (blawdiau), Y Llythyrdy (hefyd yn gwerthu blawdiau a warws wrth ei ochr), Siop Manchester House (siop ddillad fawr), Y Becws, Y Becws Isaf, Stanley House (cartref y teilwriaid a weithiai i Manchester House cyn iddynt symud i fyw i Compton House), Siop Gruffudd Jones y Cigydd (cododd dy ar Lôn Coecia yn ddiweddarach ac fe’i galwodd yn Bod Ruffudd), a Siop Robert Williams y Cigydd. Yn ychwanegol at hyn yr oedd nifer o siopau bach yn gwerthu fferins a phapurau newydd a thrigai closciwr yn un o’r tai.

Roedd pum ty tafarn yno, sef Barmouth Tavern, Fort Tavern, Quarrymen’s Arms, King’s Head a Thafarn y Coecia (a godwyd yn arbennig ar gyfer gweithwyr y rheilffordd).

Byddai busnes coed llewyrchus gan Harri Morus ym Mron Turnor. Byddai hefyd yn ymgymryd â gwneud eirch a chodi tai.

Byddai’r Felin yng ngwaelod y pentref. John Jones a fyddai’n byw yno ac ato ef yr âi pawb â’i geirch a’i haidd i’w malu. Ty bach gwyngalchog del fyddai yno yr adeg honno.

Dros y ffordd byddai pistyll y pentref lle y deuai merched Llanllyfni i gael dwr cyn bod sôn am ei bibellu o Gwm Dulyn. Ond yr Afon Llyfni a fyddai’n troi olwyn ddwr y felin.

Yn uwch i fyny’r afon, rhwng Penygroes a Llanllyfni, byddai ffatri wlân. Penbryn Ffatri fyddai’r enw cyffredin arni yr adeg honno ac yno yr oedd John Rowlands yn byw. Symudwyd y ffatri hon i Glanrafon Bach. Yr oedd ty yn ei hymyl ac yn uwch i fyny yr oedd tai Bronhwylfa.

Yr oedd gwaith llechi yn Nhy Gwyn lle y cynhyrchid llechi â fframiau pren arnynt ar gyfer ysgolion. Cynhyrchid cerrig nadd yno yn ogystal ac yn y dyddiau gynt yr oedd yn ganolfan cynhyrchu eirch. Yr oedd hyn cyn bod sôn am Yr Injan Grafog, sef gwaith llechi Inigo Jones. Yn ddiweddarach fe symudodd ef y gwaith hwnnw o’r Ty Gwyn i’r Groeslon wedi iddo sicrhau lle hwylus yn ymyl yr orsaf.

Chwarelwyr oedd y rhan fwyaf o ddynion Llanllyfni a byddai llond y pentref ohonynt yn cerdded i’w gwaith bob yn bedwar. Gweithient yn Chwareli Dyffryn Nantlle. Aent heibio i Gaer Engan a Bryn Castell dros yr Afon Llyfni a thros Bont y Criwiau. Ond yn ddiweddarach agorwyd y Lôn Ddwr ac âi’r criwiau mwyaf wedyn heibio i Danrallt i Chwarel Dorothea a cherddent yr holl ffordd, haf a gaeaf, ar bob tywydd.

Arferid pedoli gwartheg a gwyddau yng Ngefail y Berth erstalwm ac i fynd yno o Lanllyfni arferid mynd dros y bont Rufeinig. Aeth y bont honno i ganlyn y lli ym mhedwar degau’r ugeinfed ganrif ac wedyn roedd yn rhaid mynd dros Bont y Crychddwr i gyrraedd yr Efail.

Pont y Crychddwr yw’r bont rhwng mynwent uchaf Llanllyfni a’r arwyddbost am Nebo.

Ffynhonnell: I Chicago’n Bymtheg Oed
Hunangofiant Ellen G. Evans
Ty ar y Graig
1981

Mwy o wybodaeth:

  »»  Hanes Llanllyfni

  »»  Clwb Pel Droed Llanllyfni Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys