Pentrefi Dyffryn Nantlle

Talysarn

 
 
 

Talysarn, Dyffryn Nantlle, Gwynedd.Sarn Wyth-ddwr oedd yr enw gwreiddiol ar y sarn a groesai yr afon Llyfni gerllaw Tre-grwyn.

Datblygodd y pentref yn y 18fed ganrif yn ardal Pen-y-Bont - roedd y tir gynt yn rhan o Fferm Coedmadog.

Oherwydd llwyddiant chwarel lechi Cloddfa'r Coed rhwng 1850 a 1870 ehangodd y pentref yn gyflym. Codwyd tai ar gyfer y gweithwyr a'u teuluoedd ar ochr y bryn ar hyd Hen Lôn y Tyrpeg (1840au) a Rheilffordd Nantlle.

Cwympodd rhan o'r ffordd rhwng Talysarn a Nantlle i mewn i Chwarel Dorothea yn 1924, ac yn fuan wedyn, gwnaed ffordd fawr sy'n dilyn ochr ddeheuol y Dyffryn, lle roedd Llyn Nantlle Isaf gynt.

Sychwyd yn Llyn yn raddol yn ystod y 19eg ganrif oherwydd problemau yn y chwareli, gan fod y dŵr mor agos at y tyllau dyfnion. Ond wedi damwain erchyll yn 1884 yn Nhwll Ffeiar, cafodd afon Llyfni ei chamlesu.

Mae Talysarn yn enw cyfarwydd ar hyd a lled Cymru oherwydd dau ddyn enwog - Robert Williams Parry (R Williams Parry)- y bardd, a'r Parchedig John Jones - un o'r Methodistiaid mwyaf dylanwadol o'i oes.

Yn Rhiwafon, 37 Ffordd yr Orsaf y ganed R Williams Parry, (1884-1956). Ceir llechen ar y mur yn dynodi hynny ac os eir ymlaen ar hyd Ffordd yr Orsaf gwelir Cofeb Genedlaethol iddo a gynlluniwyd gan R.H. Gapper. Siâp coeden sydd i’r rhan isaf ohoni i ddynodi Y Lôn Goed, un o gerddi enwocaf y bardd.

Yn Nhynweirglodd ger Y Lôn Ddwr y ganed J. Selwyn Lloyd, yr athro a’r nofelydd cynhyrchiol i blant.

Heibio i Eglwys Sant Ioan gwelir Overdale (y pumed ty ar y chwith) a fu yn ei dro yn gartref i Hywel Cefni, Mary King Sarah a’r Parchedig Morgan Griffith.

Gerllaw Gwesty Dyffryn Nantlle, yn Cloth Hall, yr oedd cartref Gwilym R. Jones a enillodd y goron, y gadair a’r fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Treuliodd bron i ddeugain mlynedd fel Golygydd Y Faner a chyfansoddodd nifer o emynau a cherddi enwog iawn.

Ganed Y Parchedig Idwal Jones, awdur y gyfres radio enwog SOS, Galw Gari Tryfan, yn rhif 7 Cavour Terrace, Talysarn. Pregethwr, darlledwr ac awdur poblogaidd iawn a chymeriad gwreiddiol.

Cysylltir Talysarn ag un o bregethwyr mawr Cymru, Y Parchedig John Jones,1796-1857. Daethpwyd i alw Y Capel Mawr yn Gapel John Jones Talysarn. Brodor o Ddolwyddelan ydoedd. Daeth i weithio i Chwarel Dorothea a phriodi â Fanny Edwards yn fuan wedyn. Pan agorodd hi siop yn y pentref gallodd yntau roi’r gorau i’w waith yn y chwarel a chanolbwyntio ar bregethu. Yr oedd hefyd yn gerddor a chyfansoddodd y dôn Llanllyfni. Yr oedd yr enwog George M.Ll. Davies a’i frawd J. Glyn Davies (Cerddi Porthdinllaen) yn wyrion iddo. Ysgrifenwyd Cofiant iddo gan Owen Thomas, Lerpwl (taid Saunders Lewis) a ystyrir yn glasur. Mae’n cynnwys nid yn unig hanes gyrfa John Jones ond hefyd ddadleuon diwinyddol Cymru yn y cyfnod hwnnw ac astudiaeth o nodweddion pregethu’r Methodistiaid Calfinaidd.

Yn Nhanrallt, rhwng Talysarn a Llanllyfni y mae Arfryn a fu’n gartref i’r nofelydd plant, Alwyn Thomas, cefnder Mathonwy Hughes. Ef oedd awdur Teulu’r Cwpwrdd Cornel ac yn y blaen.

Mwy o wybodaeth:

  »»  Bwletin Talysarn a Nantlle

  »»  Clwb Pel Droed y Talysarn Celts

  »»  Hanes Talysarn

  »»  Planning for Real

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys