Pentrefi Dyffryn Nantlle

Llandwrog

 
 
 

Datblygodd y pentref hwn o gwmpas safle Cristnogol cynnar. Noddwyd yr eglwys bresennol (a ddyluniwyd, fel y rhan fwyaf o'r pentref gan Kennedy yn 1860) gan y teulu Newborough. Codwyd y gwesty Tŷ'n Llan (Harp) yn nechrau'r 19 ganrif. Mae’n debyg y cafodd y rhes o dai uncorn ar y ffordd o Landwrog i'r brif ffordd A499 eu codi rhywbryd wedi 1823.

Datblygwyd tai diweddar i gyfeiriad y gorllewin. Er ei fod yn bentref stad i Glynllifon, heb hyd yn oed Gapel Anghydffurfiol, mae naws y lle yn Gymraeg a Chymreig.

Oherwydd ei leoliad strategol pwysig ar ben gorllewinol Afon Menai, codwyd Fort Belan yn 1776 rhag ymosodiadau gan Americanwyr neu Ffrancod. Ychwanegwyd y doc yn 1824.

RAF Llandwrog oedd y maes glanio mwyaf yng Nghymru rhwng 1941 a 1945. Datblgwyd Maes Awyr Caernarfon ar ran o’r safle wedi’r rhyfel.

Addaswyd y cyn ysbyty a safle'r WAAF yn llwyr gan Recordiau Sain i greu stiwdio a swyddfeydd, ac mae busnes dodrefn ail-law yn safle Rhif 1 gynt. Ceir amgueddfa fach yn y maes awyr.

Mwy o wybodaeth:

  »»  Hanes Llandwrog

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys