Pentrefi Dyffryn Nantlle

Y Groeslon

 
 
 
Y Groeslon, Dyffryn Nantlle, Gwynedd

Pentref o'r 19 ganrif yw Y Groeslon a enwyd ar ôl y fan lle mae'r ffordd o Landwrog i Foel Tryfan (Lôn Cefn Glyn) yn croesi'r ffordd o Borthmadog i Gaernarfon a rheilffordd Nantlle a'i holynwyr. Ymddengys mai gefail a thŷ tafarn / gorsaf reilffordd oedd yr adeiladau cynharaf, a sefydlwyd yn y 1840au neu'r 50au, ac a ddilynwyd yn fuan wedyn gan adeiladau eraill ar hyd y ffordd.

Yn y 1870au a'r 1880au codwyd adeiladau mwy sylweddol yn unol â dymuniadau stad Niwbwrch, a hynny ar Lôn Cefn Glyn yn bennaf.

Tafarn Pen Nionyn a Swyddfa'r Post

 

 


Llun: Tafarn Pen Nionyn a Swyddfa'r Post yn y cefndir.

Mwy o wybodaeth:

  »»  Clwb Pel Droed y Groeslon Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd

  »»  Hanes Y Groeslon

  »»  Cyfraddau Llogi Neuadd Bentref Y Groeslon

  »»  Merched y Wawr Y Groeslon

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys