Pentrefi Dyffryn Nantlle

Pontllyfni

 
 
 

Cyn codi'r bont bresennol tua chanol yr ugeinfed ganrif, yr oedd y ffordd yn gulach. Chwalwyd Swyddfa'r Post (Boar's Head gynt) pan godwyd y bont newydd.

Ym Mhontllyfni yr ymgartrefodd Syr Ifor Williams, Athro Cymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Bangor - ysgolhaig ac awdurdod pennaf ein gwlad ar Yr Hengerdd - barddoniaeth gynharaf Cymru, a Phedair Cainc y Mabinogi. Iddo ef mae'r diolch fod yr holl wybodaeth o'r cyfnod cyn-hanes am y parthau hyn ar gael i ni heddiw (gweler hefyd 'Clynnog yn ein Llenyddiaeth Gynharaf Un' yn y wefan hon yn adran Hanes Clynnog Fawr).

Pontllyfni o gyfeiriad y bont

 

 

 

Llun: Pentref Pontllyfni

 

 

Golygfa o'r mor o Bontllyfni

 

 

 

Llun: Golygfa arall o gyfeiriad y bont. Yr Eifl a Gyrn Goch yn y cefndir.

Mwy o wybodaeth:

  »»  Hanes Pontllyfni

  •  Gweler rhagor o gefndir y pentref hynafol hwn (ardal Brynaerau, fel y cyfeirir ati yn Y Mabinogi) ar wefan Ysgol Brynaerau: www.brynaerau.gwynedd.sch.uk Linc allanol: Agorir mewn ffenestr newydd.

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys