Pentrefi Dyffryn Nantlle

Y Fron

 
 
 

Y Fron, Dyffryn Nantlle, Gwynedd.Datblygiad stribedog o ganol yr 19 ganrif yw Y Fron, wedi ei lleoli yn rhannol ar y ffordd wreiddiol (1809) i Chwarel Pen yr Orsedd a rheilffordd ddiwydiannol (1864) i Chwarel y Fron.

Nodweddir y pentref gan siopau a chapeli sylweddol ac amrywiaeth o adeiladau sy'n dangos y modd yr esblygodd y bensaernïaeth o'r traddodiad gwerinol i'r 'gwerinol ddiwydiannol', ond eto heb fynd y tu hwnt i'r patrwm anheddu o ddatblygu stribedog ysbeidiol.

Mae Capel y Fron yn gapel sylweddol ar ffurf bwa corongylch o ddiwedd yr 19 ganrif, ac mae'n werth nodi fod Capel Bwlch y Llyn yn enghraifft brin o gapel a ddyluniwyd gan bensaer ar ôl y diwygiad yn 1904, yn cynnwys llawer iawn o frics yn ei adeiladwaith.

Adnabyddir y pentref fel Llandwrog Uchaf gan rai. Mae'r ysgol sydd yma yn dyddio o ddechrau'r 19 ganrif.

Golygfa banoramic o'r Fron

Mwy o wybodaeth:

  »»  Hanes Y Fron

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys