Pentrefi Dyffryn Nantlle

Penygroes

 
 
 

Penygroes, Dyffryn Nantlle, GwyneddPenygroes oedd canolbwynt masnach a thrafnidiaeth Dyffryn Nantlle. Hyd at ddiwedd y pumdegau ceid marchnad anifeiliaid yma a gorsaf reilffordd. Erbyn heddiw y prif gyflogwyr yw’r ffatri bapur, yr ysgolion lleol (cynradd, uwchradd a meithrinfa), Gwasg Dwyfor, cartref henoed, y meddygfeydd, dwy garej, siopau, Antur Nantlle, y llyfrgell, Cymdeithas Tai Eryri, ac yn y blaen.

Wedi ei leoli rhwng y môr a'r mynydd mae gan Benygroes rywbeth i'w gynnig i bawb - o'r sawl sydd am gadw'n heini yn y ganolfan hamdden i'r rheini sy'n dewis hamddena gyda llyfr o'r llyfrgell fodern yng nghanol y pentref. Mae yma, hefyd, Ganolfan Dechnoleg i'ch galluogi i gysylltu â gweddill y byd ar y wê gyda'n cysylltiad Bandeang.

Ar y gofadail o flaen y Neuadd Goffa ceir un o englynion R. Williams Parry er cof am y bechgyn a gollodd eu bywydau yn Rhyfel Mawr 1914-18 (dengys y gwahanol liwiau'r cytseiniaid yn cyfateb i'w gilydd - dyna beth yw cynghanedd - a dim ond yn y Gymraeg y ceir y gynghanedd):

O Gofadail gofidiau - tad a mam!

Tydi mwy drwy’r oesau

Ddysgi ffordd i ddwys goffáu

Y rhwyg o golli’r hogiau.

Bu’r englynwr a’r bardd John Llewelyn Roberts yn byw yma. Roedd yn enedigol o Dalysarn. Yma mae cartref Angharad Tomos y llenor a’r ymgyrchwraig a cholofnydd wythnosol i’r Herald Cymraeg; Enid ac Ifor Baines, y ddau yn aelodau o dîm Glannau Llyfnwy ar Dalwrn y Beirdd ac Enid yn Olygydd y papur bro Lleu a’r hanesydd Dewi Jones. Oddi yma hefyd y daw Karen Owen, Golygydd y cylchgrawn Golwg, hithau’n fardd a llenor.

Ym Mynwent Macpela y claddwyd y dramodydd Gwenlyn Parry.

Ar y ffordd i Frynaerau, ger yr afon Llyfni, mae hen ffatri wlân. Mae llwybr yn mynd ati o Lanllyfni hefyd, drwy lôn Lleuar-fawr. Huw Jones, Garndolbenmaen, a ddechreuodd y ffatri hon.

Mwy o wybodaeth:

  »»  Gŵyl Fai Dyffryn Nantlle

  »»  Hanes Penygroes

  »»  Clwb Pel Droed Nantlle Vale

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys