Pentrefi Dyffryn Nantlle

Carmel

 
 
 
Carmel, Dyffryn Nantlle, Gwynedd.Cafodd Carmel ei enwi ar ôl capel y Methodistiaid Calfinaidd a sefydlwyd yma ym 1827. Saif y pentref wrth droed Mynydd y Cilgwyn ac fe'i datblygwyd fel lle i weithwyr chwareli llechi’r cylch fyw.

Datblygwyd y pentref yn union uwchben safle'r gât ar hen wal y mynydd, ar y groesffordd rhwg y ffordd o'r arfordir i'r tir comin, a'r ffordd dros y comin ei hunan.

Tai moel ydy rhain, sef heb dir, ac o'r herwydd, mae'r hen strydoedd yn gul.

Yma y ganed Syr Thomas Parry a'i frawd Gruffudd Parry a Dafydd Glyn Jones sydd yn berthynas iddynt.

Pentre' Carmel

Mwy o wybodaeth:

  »»  Hanes Carmel

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys