Pentrefi Dyffryn Nantlle

Aberdesach

 
 
 

Y mae pentref Aberdesach ei hunan yn cynnwys adeiladau o'r 20fed ganrif, efo canran sylweddol o dai haf. Mae rhes o 'gabanau glan-y-môr' yn ymestyn i'r gogledd o Afon Desach tuag at Faen Dylan, un o'r safleoedd niferus, cyfagos y sonnir amdano ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi - craig anferth ar ddistyll trai ond nad yw byth yn mynd o'r golwg hyd yn oed ar y stormydd mwyaf.

Traeth AberdesachMae Fferm Pennarth yn agos i Aberdesach - Pennardd fel y cyfeirir ato yn Y Mabinogion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y pwnc yma o dan y penawdau "Cromlechi" a "Llenyddiaeth Gymraeg Gynharaf" ar dudalennau Hanes Clynnog Fawr y wefan hon.

Mae'r nifer o dai fferm mawr sydd wedi eu codi yn yr ardal yn dyst i oruchafiaeth Ystad Glynllifon yn natblygiad yr arfordir yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf.

Ar draeth Aberdesach, roedd glo yn cael ei gludo i fewn gan longau ac yn cael ei ddadlwytho yn Yr Iard. Nepell oddiwrth Tŷ'n y Coed, mae yna odyn galch.

Roedd rhesiad o dai pysgotwyr a enwid Y Borth ger y môr rhwng Aberdesach a Chlynnog, ond erbyn heddiw maen't wedi disgyn a'r môr wedi erydu'r tir.

Mwy o wybodaeth:

  »»  Hanes Aberdesach

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys