Pentrefi Dyffryn Nantlle

Pant Glas

 
 
 

Pentref bach ar yr A487 tua 12 milltir i’r de o Gaernarfon ger y gyffordd â’r ffordd i Fwlchderwin ayb. Rhyw bymtheg o dai yn cynnwys siop/Swyddfa'r Post a Chapel Libanus (M.C.) sydd yma.

Capel Libanus

 

 

Llun: Capel Libanus

 

Codwyd Capel i'r Annibynwyr yma yn 1837 ond mae bellach yn dŷ a adwaenir fel Ger-y-Nant.

Tafarn oedd y tŷ a elwir bellach yn Fwlch-yr-Awel, a thybir mai ei enw oedd y "Cross Pipes".

Mwy o wybodaeth:

  »»  Hanes Pant Glas

  Iaith HyperText Markup (HTML) 4.01 Transitional Dilys Cydymffurfiad Level A efo canllawiau WCAC 1.0 y W3C Cascading Style Sheets (CSS) Dilys